
Am
Fe ganfyddwch lwybrau gwasgaredig o dywod a cherrig crynion ar hyd y rhan hon o’r traeth sy’n cysylltu gyda Bae Colwyn i’r gorllewin. Addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr, mae llwybr arfordirol a llwybr beicio rhwng y traeth hwn a Bae Colwyn. Mae yna doiledau ar draeth Llanddulas ac mae siop a thafarn yn y pentref cyfagos.Mae’r traeth wedi derbyn Gwobr Traeth Arfordir Glas ac mae’n croesawu cŵn.
Mae lleoedd parcio ar gael ger y traeth, ac mae safle picnic ac ardal wersylla i’r rhai sy’n dymuno aros am gyfnod hwy. Nid oes achubwr bywyd ar y traeth hwn.