Coronafeirws: Am y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 CLICIWCH YMA
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Nifer yr eitemau: 27
, wrthi'n dangos 1 i 20.
Llanfihangel GM
Mae’r daith feicio hon (49cilomedr, dringo 943m) yn mynd o bentref Llanfihangel Glyn Myfyr a thrwy Goedwig Clocaenog i fyny at Gronfa Ddŵr Llyn Alwen ac ymlaen i Lyn Brenig ar hyd lonydd coedwig.
Cyffylliog
Mae ‘I fyny i’r Llyn’ yn daith feicio eithaf hir a mynyddig, tua 42 cilomedr, ac yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr a beicwyr canolradd ac unrhyw un sydd am brofi ei stamina heb ormod o waith technegol.
Mae'r daith o gwmpas Marine Drive yn weithgaredd "rhaid ei wneud" ar gyfer unrhyw un sy'n ymweld â Llandudno gyda golygfeydd godidog a theimlad diarffordd garw.
Llanrwst
Helmet and spares/tools provided.
Colwyn Bay
Mentrwch draw oddi wrth lan y môr a dringo drwy goed Pwllycrochan i'r ffyrdd cefn gwlad tawel gyda golygfeydd rhagorol o Fryniau Clwyd a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Cerrigydrudion
Taith gron, hawdd ei dilyn, sydd wedi’i harwyddo, o amgylch Cronfa Ddŵr Alwen, tua 7.5 milltir (11 cilomedr), o hyd. Mae Llwybr Alwen yn eich arwain drwy’r goedwig ac ar hyd y glannau ac i fyny at rostiroedd Mynydd Hiraethog.
Mae'r llwybr hwn yn mynd â chi o amgylch y Gogarth a Thrwyn y Fuwch cyn mynd o gwmpas coetir eiconig Bae Colwyn.
Llanrwst
Taith o tua 15 milltir (24 km) gyda llethrau cymedrol trwy bentrefi Betws-y-coed, Penmachno, Capel Garmon, heibio i geunant Ffos Anoddun gyda golygfeydd gwych, gan orffen lle mae’r daith yn cychwyn yn Llanrwst.
Coastal cycle route and beautiful countryside all in one.
Betws-y-Coed
Mae Beics Betws yn cynnig gwasanaeth llogi beiciau, teithiau beic tywys a gwyliau beics teithiol. Mae gennym feiciau hardtail, hybrid, antur trydanol a safonol a beiciau teithiol i’wr llogi.
Betws Y Coed
Llwybrau Penmachno yw un o ganolfannau beicio mynydd gorau Gogledd Cymru. Mae yma ddau lwybr - Dolen Machno (19cilomedr) a Dolen Eryri (11 cilomedr) – gallwch eu beicio’n unigol neu fel clamp o daith hir 30 cilomedr.
Mae Carbon Monkey yn cynnig teithiau tywys ar feiciau mynydd a beiciau, cyrsiau sgiliau a theithiau aml-dydd o'n canolfan yng Nghonwy.
Dyma lwybr sy’n cyfateb i’w enw, mae’n daith anodd 57 cilomedr o hyd sy’n cynnwys bron i 1500m o ddringo gan herio’r beicwyr mwyaf heini (graddfa coch). Mae’r golygfeydd a’r ddisgynfa hir a chyffrous ar drac sengl yn wirioneddol werth chweil.
Penmaenmawr
Taith o tua 10 milltir (16 km) gyda golygfeydd hardd sy’n mynd o Benmaenmawr i Gonwy ac yn ôl.
Corwen
Cylchdaith tua 20 cilomedr o hyd yn bennaf ar hyd lonydd gwledig, ond mae rhai darnau ar ffyrdd geirw ac oddi ar y ffordd ar lwybrau yn y goedwig, yn dechrau o faes parcio Traeth Pensarn.
Taith hawdd i feicwyr cymwys ar lwybrau di-gar a ffyrdd cefn tawel.
Abergele
Cylchdaith tua 20 cilomedr o hyd yn bennaf ar hyd lonydd gwledig, ond mae rhai darnau ar ffyrdd geirw ac oddi ar y ffordd ar lwybrau yn y goedwig, yn dechrau o faes parcio Traeth Pensarn.
Betws y Coed
Taith fer ond egnïol o 13 milltir (21 km) gyda golygfeydd godidog yn cychwyn o Fetws-y-coed ac yn mynd trwy bentrefi Llanrhychwyn a Threfriw ac ymlaen i Lanrwst gan ddychwelyd i Fetws-y-Coed.
Llandudno
Taith amrywiol o amgylch tref glan môr Fictoraidd Llandudno a’r Gogarth ac yn ôl Ddeganwy. Tua 15 milltir (24 km) o hyd gyda nifer o rannau sy’n codi’n raddol.