
Am
Mae Llyn Brenig yng nghanol rhostiroedd Mynydd Hiraethog ac yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau awyr agored, yn cynnwys cerdded, beicio, pysgota a hwylio. Lle hyfryd i fwynhau picnic a golygfeydd o’r tirlun gwledig. Mae rhwydwaith o lwybrau cerdded yn croesi’r ardal a cheir nifer o lwybrau beicio a cherdded sydd wedi’u harwyddo. Yn y Ganolfan Ymwelwyr mae yna gyfleusterau megis caffi, trwyddedau pysgota a llogi beiciau, ac ardal chwarae i blant.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
- Safle Picnic
Cyfleusterau Darparwyr
- Toiledau
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio (codir tâl)