I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Gwybodaeth i Ymwelwyr > Toiledau
Chwilio am doiled cyhoeddus ger llaw? Does dim rhaid i chi edrych ymhellach. Rydyn ni wedi creu rhestr lawn o doiledau glân a hygyrch ar draws y sir, er mwyn i chi allu dod o hyd i’r un sydd agosaf atoch chi.
Cyfleusterau ar hyd y sir
Mae 52 o doiledau cyhoeddus yn Sir Conwy, sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn, ac eithrio Dydd Nadolig a Dydd Calan. Mae’r amseroedd agor yn amrywio gan ddibynnu ar y tymor. Mae rhestr lawn o’r amseroedd agor ar gael yma. Gallwch weld rhestr gyflawn o’n toiledau a gwybodaeth am gyfleusterau yma.
Cynllun Toiledau Cymunedol
Mae’r Cynllun Toiledau Cymunedol yn fenter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy’n annog busnesau i agor eu cyfleusterau toiledau i’r cyhoedd. Mae nifer o fusnesau yn rhan o’r cynllun yn Sir Conwy. Mae rhestr lawn ar gael yma.
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi angen mwy o wybodaeth am doiledau cyhoeddus yn yr ardal, cysylltwch â’n timau gwybodaeth i dwristiaid. Mae ein Canolfan Groeso yng Nghonwy wedi’i lleoli ar Vicarage Road ac mae yno doiledau cyhoeddus, fel y gallwch chi ddefnyddio’r cyfleusterau cyn pori trwy ein dewis o fapiau ac anrhegion. Fel arall, os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am gyfleusterau eraill yn eich ardal, gallwch ffonio ein timau ar 01492 577577 neu 01492 577566.
Gallwch hefyd lawrlwytho ein ap – ApConwy. Mae hwn yn ap am ddim ar gyfer eich ffôn symudol sy’n helpu ymwelwyr i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflym. Un peth defnyddiol yw’r gallu i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r toiled cyhoeddus agosaf atoch chi. I ddefnyddio’r ap, y cyfan sydd angen ei wneud yw lawrlwytho AppConwy o'r AppStore, PlayStore neu Windows Store.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl