Coronafeirws: Am y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 CLICIWCH YMA
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Nifer yr eitemau: 39
, wrthi'n dangos 1 i 20.
Dewch ar antur gyda’r Llwybr Dychmygu – daw gorffennol Bro Colwyn a Mochdre yn fyw gyda’r ap hwn y gellir ei lawrlwytho’n rhad ac am ddim.
Profiad cyfoethog lle gellir ymgolli mewn hanesion, elfennau gweledol a synau. Yn cynnwys llwybrau…
Rhos-on-Sea
Mae Llwybr Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos yn mynd trwy 25 safle hanesyddol mewn 3 awr yn unig, gan gynnwys Eglwys Sant Trillo (yr eglwys leiaf ym Mhrydain) ac adfeilion Bryn Euryn, bryngaer o’r 5ed ganrif gyda golygfeydd gwych. Gellir codi copïau o…
Trefriw
Mae’r llwybr hwn yn arwain ar draws y bryniau coediog, heibio cloddiadau dwfn, siafftiau mwynfeydd wedi’u capio, mynedfeydd y twnnelau a gweddillion hen felinau, lle bu cenedlaethau o fwynwyr yn cloddio plwm a mwyn sinc o’r bryniau.
Rhos On Sea
Mae bryn calchfaen amlwg Bryn Euryn wedi’i orchuddio gan gyfres o lwybrau drwy’r coedwigoedd cyfagos, sy’n addas ar gyfer teuluoedd.
Betws Y Coed
Mae llwybrau Drysau Cysegredig yn cysylltu rhai o eglwysi a chapeli mwyaf diddorol pentrefi a threfi bach Dyffryn Conwy.
Cerrigydrudion
Y byrraf o’r ddau lwybr, ychydig gannoedd o fetrau o hyd yn unig, yn cyflwyno rhai o nodweddion mwyaf diddorol o’r Oes Efydd ac Oes y Cerrig ger Llyn Brenig.
Llanfairfechan
Taith gron 4.5 milltir (7 cilomedr) o hyd o dref Llanfairfechan at odre mynyddoedd y Carneddau, drwy dirlun sy’n llawn nodweddion archaeolegol yn dyddio o Oes y Cerrig.
Llanfairfechan
Pum taith gerdded, o bellter amrywiol, o amgylch pentref Llanfairfechan ar arfordir y gogledd. Mae pob taith yn dechrau o’r maes parcio ar Ffordd yr Orsaf a gallwch brynu lluniaeth o’r siopau a’r tafarndai lleol.
Llanrwst
Mae’r daith gron 3.5 milltir (5.5 cilomedr) hon yn un o gyfres o deithiau cerdded o dref Llanrwst ac mae’n arwain drwy goetir i ddatgelu golygfeydd godidog o fynyddoedd y Carneddau a Dyffryn Conwy.
Tal y Cafn
A gentle circular walk of approximately 6.5km long from Tal-y-Cafn along the Conwy River.
Colwyn Bay
Cyfres o 4 cylchdaith sy’n amrywio o .075 milltir i 1.25 milltir sy’n ymestyn ar draws y llethrau y tu ôl i dref Bae Colwyn.
Betws Y Coed
Mae’r daith hon yn cychwyn o Eglwys y Santes Fair yng Ngwydyr ac yn dringo trwy’r coetir nes cyrraedd Llyn Elsi lle ceir golygfeydd gwych tuag at Foel Siabod a’r Carneddau. Dilynwch yr arwyddbyst. Tua 2.6 milltir o hyd.
Pentrefoelas
Pum cylchdaith o wahanol hyd o bentref Pentrefoelas.
Betws Y Coed
Mae’r llwybr hwn drwy Goedwig Gwydyr yn datgelu golygfeydd godidog o fynyddoedd y Glyderau a’r Carneddau. Mae’r daith yn dechrau o Lyn-y-Sarnau yng Ngwydyr. Tua 4 milltir o hyd. Addas i deuluoedd.
Penmaenmawr
Taith gerdded Huw Tom, 6 milltir (9.6 cilomedr) o hyd gyda golygfeydd godidog o Benmaenmawr ar yr arfordir drwy’r mynyddoedd i Rowen, pentref bychan yn Nyffryn Conwy.
Llanrwst
Mae'r gylchdaith hon yn cychwyn o dref farchnad Llanrwst ac yn mynd â chi trwy goetir hynafol Coed y Felin Llanddoged i bentref Llanddoged ac yna byddwch yn dilyn llwybrau ar draws tir fferm gyda golygfeydd godidog o Eryri a Dyffryn Conwy. 5 milltir,
Trefriw
Mae’r gylchdaith hon yn mynd â chi o amgylch Llyn Crafnant yng ngodidowgrwydd Parc Cenedlaethol Eryri uwchlaw pentref Trefriw yn Nyffryn Conwy. Mae’r llwybr yn 2.5 milltir (4 km) o hyd ac yn addas i fynd â phramiau ar hyd-ddi.
Llanrwst
Os oes awydd arnoch daith hamddenol yn ôl i’n gorffennol canoloesol yna mae Taith y Fonesig Fair trwy Goedwig Gwydyr yn berffaith ar eich cyfer. Ar y daith hanesyddol ceir golygfeydd anhygoel o hen dref marchnad Llanrwst ac fe’ch cyflwynir i rai o’r
Betws y Coed
Taith gerdded gymhedrol/anodd drwy Goedwig Gwydir gyda golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri.
Denbigh
Taith gerdded gylch fer tua 1.5 milltir o hyd trwy goetir Coed Shed gan ddechrau o bentref y Groes ger y ffin â Sir Ddinbych.