Am
Mae map a chanllaw llwybr Alys yng Ngwlad Hud ar gael i'w prynu yn y Ganolfan Groeso.Archwiliwch Llandudno, a darganfyddwch beth yw’r cysylltiad ag Alice Liddell (yr Alys yng Ngwald Hud go iawn) a ddaeth ar wyliau i Landudno yn y 1860au.
Gan ddechrau yn y Ganolfan Groeso a defnyddio'r map fel eich canllaw, dilynwch 55 o olion traed y gwningen efydd o amgylch y dref.
Mae’n ddiwrnod allan gwych efo digon o gyfleoedd i dynnu lluniau, darganfod llu o gerfluniau Alys yng Ngwald Hud sydd wedi eu codi yma ac acw o amgylch y dref. Mae'r daith yn mynd â chi heibio Neuadd y Dref, siopau creiriau ac orielau celf Madoc Street, ar hyd y Promenâd ac i’r Fach. Yma fe allwch chi ymlacio a mwynhau picnic a helfa sborion.
O'r siambr dywyll fe gewch chi olygfeydd godidog o’r cyrchfan glan môr Fictoraidd anhygoel yma ac o Benmorfa. Mae’r llwybr wedyn yn mynd â chi drwy erddi ysblennydd Haulfre at droed y Gogarth ac yna at leoliad cartref gwyliau Alys ym Mhenmorfa.