Am
Ynghylch Traeth Llandudno
Gyda 2 draeth sydd wedi ennill gwobrau, Llandudno yw cyrchfan fwyaf Cymru. Wedi'i lleoli rhwng Pen y Gogarth a Thrwyn y Fuwch mae dewis o Draeth y Gogledd a thwyni tywod Penmorfa.
Mae gan Landudno ei chyfoeth o atyniadau modern yn ogystal â'i hanes Fictoraidd ac Edwardaidd.
Traeth y Gogledd neu draeth Llandudno yw prif draeth y dref. Mae’n draeth cysgodol gyda phier Fictoraidd hir a phromenâd eang ac yng nghysgod trawiadol pentir y Gogarth.
Pethau i’w Gwneud ar Draeth Llandudno a’r Dalgylch
Does yna byth eiliad ddiflas ar draeth Llandudno!
Mae pob un o'r ffyrdd hen-ffasiwn gorau o fwynhau ein harfordir hardd ar gael yma;
• Sioeau Punch a Judy – ffefryn gan deuluoedd ers dros 150 mlynedd.
• Reid ar gefn asyn ar y tywod
• Hufen iâ ar y pier
• Cerddoriaeth fyw ar y bandstand
• Neu bendwmpian yn y pnawn yn ein cadeiriau cynfas.
Mae yna ardal chwarae, pwll padlo a byrbrydau ym mhen dwyreiniol y Promenâd.
Un o’r ffyrdd gorau o weld Llandudno yw o gwch. Camwch ar fwrdd y Sea-Jay ar gyfer taith olygfaol ar y dŵr i weld Trwyn y Fuwch a'r Gogarth, neu daith bysgota môr hirach lle gallwch fwynhau’r arfordir ysblennydd yn y gobaith o ddal eich swper eich hun.
Neu gallwch gamu ar fwrdd un o'r cychod cyflym a gwibio heibio’r Gogarth a Thrwyn y Fuwch trwy ddistrych y tonnau.
Llawer o sbort!
Does dim llawer o ddulliau teithio eraill yn gwneud i deithwyr neu gerddwyr wenu cymaint na Thrên Tir Llandudno y gallwch chi gamu ar ei fwrdd gyferbyn â Rhodfa’r Gogledd.
Mae'r temtasiwn i godi llaw ar y tyrfaoedd, wrth i'r injan amryliw bwffian rhwng Traeth y Gogledd a thraeth Penmorfa, yn ormod i'w wrthsefyll.
Dim ond ychydig funudau ar droed yw Traeth Llandudno i ffwrdd o amwynderau’r dref gan gynnwys siopau, caffis a thoiledau.
Gwybodaeth am Draeth y Gogledd Llandudno:
• Rheolir Traeth Llandudno gan Wasanaeth Harbwr ac Arfor, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
• Enillydd gwobr glan môr 2018
• Mae mynediad i bobl anabl.
• Gellir llogi cadeiriau cynfas
O dan Orchymyn Gwahardd Cŵn 2012, gallech wynebu dirwy o £75 os ewch â’ch cŵn ar unrhyw un o draethau Llandudno. Ni chaniateir cŵn ar y traethau rhwng 1 mai a 30 medi. I gael manylion llawn a map o’r ardaloedd lle na chaniateir cŵn, cliciwch ar y ddolen pdf isod.
Does dim achubwr bywyd ar y traeth.
A chofiwch, peidiwch â bwydo’r gwylanod!