Delwedd o leoliadau paneli Llwybr Treftadaeth Llandudno

Am

Mae Llwybr Tref Llandudno newydd sbon yn cynnwys 15 lleoliad, o’r promenâd i’r pier, o strydoedd siopa i draethau euraid, o erddi i bentir y Gogarth. Ar hyd y daith byddwch yn darganfod pam y mae tref Llandudno yn edrych fel ag y mae - y gyrchfan Fictoraidd berffaith - a sut y mae’r dref wedi llwyddo i gadw’i hymddangosiad gwreiddiol dros y blynyddoedd. Bydd cyfle hefyd i chi ddarganfod am gysylltiadau’r dref ag Alys yng Ngwlad Hud a dod o hyd i flwch llythyrau chwe-ochrog Fictoraidd sydd wedi llwyddo i oroesi, yn union fel y dref ei hun.

1 Llyfrgell Llandudno, Stryd Mostyn | workloads.knees.manly

Croeso i ganol tref glan môr Fictoraidd Llandudno gyda’i golygfa hardd i fyny Stryd Mostyn tua’r Gogarth.

2 Trinity Square | laces.gossip.rots

Mae pobl Llandudno wedi bod yn addoli yn Eglwys y Drindod ers yr 1870au.

3 Vaughan Street | panting.emperor.tweed

Erbyn diwedd y 1850au, yn sgil dyfodiad gorsaf reilffordd newydd sbon, roedd Llandudno wirioneddol yn dref glan môr ffit ar gyfer yr oes fodern.

4 Gerddi’r North Western | bulge.impaired.papers

Roedd tref osgeiddig, agored Llandudno ymhell o flaen ei hamser.

5 Y Promenâd yng Nghlonmel Street | swim.publisher.every

Ers canrifoedd mae preswylwyr ac ymwelwyr wedi byw, aros a cherdded ar hyd y bae bendigedig hwn.

6 Y Senotaff ar y Promenâd | cube.goodbye.stance

Mae promenâd Fictoraidd hardd Llandudno yn dilyn siâp naturiol y bae gyda’r Gogarth a Thrwyn y Fuwch ar y naill ben a’r llall.

7 Sgwâr Tywysog Edward | producing.grants.august

Sgwâr Tywysog Edward ydi’r lle i gael hwyl wrth ymyl y môr drwy'r dydd a’r nos.

8 Cylchdro’r Gogarth ger y Pier | toast.clubbing.taps

Ewch am dro hamddenol ar hyd y pier neu os ydych yn teimlo’n fwy egnïol cerddwch o amgylch Cylchdro’r Gogarth i ymgolli yn y golygfeydd.

9 Y Fach a’r Camera Obscura | cashew.message.september

O’r fan hon gallwch syllu dros dref Fictoraidd Llandudno a’i strydoedd syber ger y bae.

10 Upper Mostyn Street | froth.students.parkland

Ardal siopa wreiddiol y dref Fictoraidd - yma yr agorodd siop adrannol a banc cyntaf Llandudno.

11 Church Walks | ambitions.tunnel.craziest

Cyn datblygiad tref glan môr Llandudno pentref mwynwyr copr oedd yr ardal hon.

12 Ffordd Cwlach | expect.extent.doing

Mwynhewch olygfeydd panoramig o’r rhan hynaf hon o Landudno gyda’r dref Fictoraidd fodern islaw.

13 Penmorfa | chat.supposing.precluded

Unwaith yn rhan ddiwydiannol o’r dref, mae’r ardal hon bellach yn llecyn tawel gyda chysylltiadau â stori Alys yng Ngwlad Hud.

14 Gloddaeth Street | rehearsed.breath.swam

Wedi’i hadeiladu 40 o flynyddoedd cyn dyfodiad y cerbyd modur, mae’r stryd Fictoraidd lydan hon yn cysylltu traethau Llandudno.

15 Mostyn Street | puddings.bonds.toolbar

Wedi’i henwi ar ôl y teulu a sefydlodd y dref ac sy’n dal yn berchen ar y rhan fwyaf ohoni, hon oedd stryd fawr fywiog y dref Fictoraidd.

 

Cyfleusterau

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored
  • Croesawgar i gŵn
  • Mewn tref/canol dinas

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Llwybr Treftadaeth Llandudno

Taith Gerdded

Llandudno, Conwy, LL30 2RP

Ychwanegu Llwybr Treftadaeth Llandudno i'ch Taith

Beth sydd Gerllaw

  1. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar un o’r profiadau teithiau preifat dan arweiniad…

    0 milltir i ffwrdd
  2. Mae Penderyn wedi bod cynhyrchu wisgi brag sengl a gwirodydd sydd wedi ennill gwobrau yn…

    0.18 milltir i ffwrdd
  3. Dewch i Amgueddfa’r Home Front i gamu’n ôl mewn amser - i’r 1940au ym Mhrydain. Yn yr…

    0.18 milltir i ffwrdd
  1. Ewch ar siwrnai siocled sy’n rhychwantu 5,000 o flynyddoedd. Gan ddechrau mewn cwt…

    0.19 milltir i ffwrdd
  2. Mae gan yr Amgueddfa chwe oriel barhaol yn adrodd hanesion gorffennol Llandudno gan…

    0.19 milltir i ffwrdd
  3. Traeth y Gogledd yw prif draeth Llandudno, ac mae’n draeth cysgodol gyda phier Fictoraidd…

    0.21 milltir i ffwrdd
  4. Gadewch y car ac ewch ar antur ar draws Parc Cenedlaethol Eryri.

    0.22 milltir i ffwrdd
  5. Rydym yn annog amgylchedd cyfeillgar a pharchus lle gall holl ddringwyr herio eu hunain,…

    0.22 milltir i ffwrdd
  6. “Finding Alice,” is an immersive game transporting players into the enchanting world of…

    0.23 milltir i ffwrdd
  7. Mae lein Dyffryn Conwy yn rhan o’r Rhwydwaith Rheilffrdd Cenedlaethol. Mae’n rhedeg wrth…

    0.23 milltir i ffwrdd
  8. Wedi ei sefydlu ym 1860, mae sioe Pwnsh a Jwdi hynaf Prydain yn cael ei pherfformio gan y…

    0.23 milltir i ffwrdd
  9. Hwylfan Bonkerz, un o’r cyfleusterau chwarae meddal dan do gorau o’i fath yng Ngogledd…

    0.25 milltir i ffwrdd
  10. Mae trefi arfordirol braf Llandudno a Chonwy wedi’u lleoli rhwng dau draeth hyfryd ac mae…

    0.26 milltir i ffwrdd
  11. Yn Llandudno, mae Ultimate Escape yn her ystafell ddianc llawn hwyl. Allwch chi a’ch…

    0.27 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....