I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Nifer yr eitemau: 71
, wrthi'n dangos 61 i 71.
Colwyn Bay
Mae'r coetir amlwg hwn sy’n ymestyn ar draws y llethrau uwchben a’r tu ôl i dref Bae Colwyn yn hawdd cyrraedd ato o'r llwybr beicio arfordirol.
Betws-y-Coed
Teithiau trwy 9.5 erw o goedwig gynhenid at raeadr drawiadol Conwy. Mynediad ar hyd tir Conwy Falls Café, a gynlluniwyd yn y 1930au gan y pensaer adnabyddus lleol Clough Williams-Ellis. Gweinir byrbrydau a phrydau blasus.
Llanrwst
Os oes awydd arnoch daith hamddenol yn ôl i’n gorffennol canoloesol yna mae Taith y Fonesig Fair trwy Goedwig Gwydyr yn berffaith ar eich cyfer. Ar y daith hanesyddol ceir golygfeydd anhygoel o hen dref marchnad Llanrwst.
Llandudno
Cyfres o lwybrau cerdded, o bellter amrywiol, i fyny ac o amgylch copa’r Gogarth yn Llandudno.
Colwyn Bay
Mae’r Glyn yn Warchodfa Natur Leol a choetir hynafol. Mae’r llwybrau coediog drwy’r warchodfa’n dilyn hynt yr Afon Colwyn i ganol Hen Golwyn.
Cerrigydrudion
Taith gron, hawdd ei dilyn, sydd wedi’i harwyddo, o amgylch Cronfa Ddŵr Alwen, tua 7.5 milltir (11 cilomedr), o hyd. Mae Llwybr Alwen yn eich arwain drwy’r goedwig ac ar hyd y glannau ac i fyny at rostiroedd Mynydd Hiraethog.
Conwy
Mae’r coetir cymysg deniadol hwn o 7.5 ha rhwng Parc Bodlondeb yng Nghonwy a glan ddeheuol Moryd Conwy, ac mae’n gartref i amrywiaeth o famaliaid, adar ac ieir bach yr haf.
Cerrigydrudion
Mae Cronfa Ddŵr Alwen yn llyn 900 erw - y llyn gwneud mwyaf yng Nghymru. Mae yna lwybr o gwmpas y llyn sy’n berffaith ar gyfer beicio, cerdded neu farchogaeth. Mae yna hefyd ganolfan sgïo dŵr.
Betws-y-Coed
Mae’r Rhaeadr Ewynnol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle mae’r Afon Llugwy’n llifo drwy hafn gul nes creu rhaeadr arbennig iawn gyda choed ffawydd, bythwyrdd a bedw yn y cefndir.
Conwy
Beth am gael hwyl wrth ddarganfod mwy am Gonwy drwy ddilyn dau lwybr treftadaeth - fe allwch chi hyd yn oed gymryd rhan mewn helfa drysor!? Gallwch brynu neu lawrlwytho’r teithiau - dewch ‘laen, dewch i ddarganfod mwy!
Penmaenmawr
Mae’r daith ar hyd yr Uwchdir yn datgelu peth o hanes cudd y dirwedd uwchben Penmaenmawr sy’n gyforiog o rywogaethau bywyd gwyllt ac adar.