Am
Mae’r Glyn yn ardal goediog ar hyd Afon Colwyn, Hen Golwyn. Roedd y Glyn yn barc hynod boblogaidd yn oes Fictoria a chafodd ei ddynodi’n Warchodfa Natur Leol am ei bywyd gwyllt toreithiog. Yma fe welwch chi siglennod llwyd, garlleg gwyllt a choed derw ac ynn brodorol. Mae’r Glyn yn lle gwych i ymweld ag o. Gallwch fynd am dro a chael picnic yno ar unrhyw adeg o'r flwyddyn gan ei fod yn darparu cysgod rhag y glaw a’r haul. Mae’r llwybrau hygyrch yn golygu y gall pawb fwynhau’r Glyn. Y ffordd orau i gyrraedd y Glyn yw naill ai ar droed neu ar feic. Nid yw’r Glyn ymhell i ffwrdd o Lwybr Gogledd Cymru na Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Rhif 5.Lawrlwythwch daflen y Glyn ar gyfer mapiau a gwybodaeth am hanes a bywyd gwyllt yr ardal.