Am
Traeth Bae Colwyn / Llandrillo-yn-Rhos
Fel, enillydd gwobr fawreddog y Faner Las 2019, mae Traeth Bae Colwyn (a elwir hefyd yn draeth Llandrillo-yn-Rhos) yn wych ar gyfer nofio, chwaraeon dŵr a physgota, ac ar gyfer beicio a cherdded ar hyd y trac arfordirol.
Llandrillo-yn-Rhos yw cefnder sydêt Bae Colwyn.
Mewn gwirionedd, mae'r bae hir, tair milltir o hyd yn dechrau ar wal harbwr Rhos, golygfa lonydd o gychod yn siglo a thraeth o dywod a graean sy'n sicr o beidio â mynd yn rhy brysur o gwbl.
Mae Rhos yn adnabyddus am bethau bach hefyd - yn benodol Theatr Bypedau Harlequin, dafliad carreg o lan y môr.
Atyniad arall 'mini' yw Golff Mini Rhos Fynach.
Golff gwirion gyda thema forwrol llawn hwyl, gyda thyllau'n cynnwys ‘Y bwrdd syrffio’, ‘Penglog y Môr-ladron’ a ‘Llong danfor’.
Pethau i'w gwneud ar neu o gwmpas Traeth Bae Colwyn:
Mae’r darn o arfordir o Landrillo-yn-Rhos i Fae Colwyn a thu hwnt wedi gweld trawsnewid mawr gyda phrosiectau ac atyniadau newydd yn rhoi bywyd newydd i'r gyrchfan.
Mae'r datblygiad ar lan y dŵr Porth Eirias yn prysur ddod yn atyniad mawr ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Mae bistro newydd yn cael ei redeg gan y sieff a aned yn Ninbych, Bryn Williams ac ystod o hyfforddiant chwaraeon dŵr yn cael eu darparu gan Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn.
Mae’r bae tywodlyd siâp cilgant yn edrych yn well nag erioed!
Mae traeth newydd dilychwin Bae Colwyn, rhan o brosiect Glan y Môr Bae Colwyn, wedi cynnwys mewnforio cyfeintiau Saharaidd o dywod ffres ac adnewyddwyd ac adfywiwyd y promenâd.
Rhai o’r atyniadau lleol yw Parc Eirias, a’r Sw Fynydd Gymreig, ac mae llawer mwy o atyniadau a gweithgareddau yn yr ardal gyfagos ar gyfer ymwelwyr a phobl ar eu gwyliau.
Gwybodaeth am Draeth Bae Colwyn:
Rheolir Traeth Bae Colwyn / Rhos gan Wasanaeth Harbwr ac Arfor, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Enillydd gwobr y Faner Las 2019.
Ni chaniateir cŵn ar y traeth gan gynnwys ar lan y môr, y blaendraeth nac ar unrhyw lethr neu risiau sy'n arwain at y traeth o 1 Mai tan 30 Medi yn yr ardaloedd canlynol: Traeth Llandrillo-yn-Rhos (rhwng Rhos Pont a phen dwyreiniol Promenâd Cayley) a Thraeth Bae Colwyn (rhwng Pier Victoria a'r fynedfa i Barc Eirias).
Ni chaniateir cŵn drwy gydol y flwyddyn ar y traeth tywodlyd bach yn Rhos Point.