Beicwyr ar lwybr yr arfordir

Am

Cylchdaith tua 20 cilomedr o hyd yn bennaf ar hyd lonydd gwledig, ond mae rhai darnau ar ffyrdd geirw ac oddi ar y ffordd ar lwybrau yn y goedwig.

Mae’r daith yn dechrau ym maes parcio Traeth Pensarn ac yn mynd i gyfeiriad y gorllewin ar hyd yr A548; trowch i’r chwith i’r A547; wrth i chi basio’r Clwb Golff trowch i’r dde i Ffordd Llan Sain Siôr; ewch yn eich blaen nes i chi gyrraedd rhes o garafanau sefydlog ar y chwith a throwch i’r chwith yma gan ddilyn y ffordd arw drwy fuarth y fferm. Trowch i’r dde yn Ffordd Tan y Gopa a throwch i’r chwith wrth yr ail fforch; i’r dde ar Ffordd Llanfair, A548, yna i’r chwith ar unwaith i gyfeiriad Ysbyty Abergele. Mae’r trac yn arwain drwy’r goedwig. Trowch i’r chwith wrth i chi ddod allan o’r goedwig gan gadw i’r dde ger y fforch hyd nes i chi gyrraedd ffordd y B5381, trowch i’r chwith yma ac yna i’r chwith eto. Bydd troad siarp i’r dde ger Fferm Fardre yn eich arwain ar hyd ffordd dawel i’r porthdy. Trowch i’r chwith yma, gan fynd i lawr yr allt serth i bentref Llan Sain Siôr. Mae’r ffordd o’r dafarn yn arwain yn syth i Abergele heibio’r chwarel lle mae arwyddbost am Bensarn o’r goleuadau traffig.

Cyfleusterau

Suitability

  • Families

Map a Chyfarwyddiadau

Cylchdaith i Feiciau o Abergele i Lan Sain Siôr

Llwybr Beicio

Pensarn Beach, Abergele, Conwy, LL22 7PP

Ychwanegu Cylchdaith i Feiciau o Abergele i Lan Sain Siôr i'ch Taith

Beth sydd Gerllaw

  1. Mae’r traeth cerrig mân hyfryd hwn gyda’i bromenâd, yn wych ar gyfer cerdded yn hamddenol…

    0.11 milltir i ffwrdd
  2. Wedi ei leoli yn agos at y traeth yn Abergele, mae Parc Pentre Mawr yn barc trefol…

    0.2 milltir i ffwrdd
  3. Arcêd Adloniant a chanolfan adloniant i deuluoedd ar y promenâd yn Abergele.

    0.65 milltir i ffwrdd
  1. Plasty Gradd I rhestredig yng Ngogledd Cymru yw Castell Gwrych a adeiladwyd ddechrau’r…

    1.13 milltir i ffwrdd
  2. Croeso i’n Parc Fferm. Gwyliwch ras y moch, cyfarfod â’n hymlusgiaid, rhoi mwythau i…

    1.17 milltir i ffwrdd
  3. Wedi bod yn dod â hwyl a chwerthin i wyliau’r haf ers dros 50 mlynedd, mae Knightly’s…

    1.89 milltir i ffwrdd
  4. Fe ganfyddwch lwybrau gwasgaredig o dywod a cherrig crynion ar hyd y rhan hon o’r traeth…

    2.21 milltir i ffwrdd
  5. Am rywbeth ychydig yn wahanol beth am y wefr o rasio harnes arddull Americanaidd yn Nhir…

    2.32 milltir i ffwrdd
  6. Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel, yn draeth tywodlyd sy’n wynebu'r gogledd gyda…

    2.84 milltir i ffwrdd
  7. Mae Twyni Cinmel yn rhoi cyfle i chi gerdded neu feicio drwy system dwyni tywod…

    2.95 milltir i ffwrdd
  8. Mae Mynydd Marian yn gefnen fechan o garreg galch sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir…

    3.19 milltir i ffwrdd
  9. Mae’r Glyn yn Warchodfa Natur Leol a choetir hynafol. Mae’r llwybrau coediog drwy’r…

    4.72 milltir i ffwrdd
  10. Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau…

    5.35 milltir i ffwrdd
  11. Wedi ei leoli ym Mae Colwyn, gyda hanner can erw o barcdir prydferth, Parc Eirias ydi…

    5.39 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....