Am
Mae traeth tywod hir Llanfairfechan pan mae’r llanw’n isel yn hyfryd ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc. Mae ganddo olygfeydd gwych o Ynys Môn, Afon Menai a Phen y Gogarth. Mae’r traeth yn boblogaidd gydag ymdrochwyr ac mae ardal bicnic laswelltog helaeth gydag ardal chwarae i blant a llyn hwylio cychod model. Mae’r traeth ger Llwybr Arfordir Gogledd Cymru a gwarchodfa natur Traeth Lafan, sy’n boblogaidd iawn gyda gwylwyr adar.Mae’r traeth hwn yn wych ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys nofio, syrffio, canŵio môr, hwylio (mae yna glwb hwylio yma), bordhwylio a physgota. Mae yna bromenâd ar gyfer cerddwyr ac mae Parc Cenedlaethol Eryri gerllaw.
Mae yna leoedd parcio am ddim i fwy na 100 o geir, a thoiledau (yn cynnwys toiled i bobl anabl).
Nid oes achubwr bywyd ar y traeth hwn.