I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Nifer yr eitemau: 132
, wrthi'n dangos 101 i 120.
Llandudno Junction
Rydym wedi cymryd ein treftadaeth a’n profiad ac wedi ychwanegu ein harddull ein hun i greu eich pysgod a sglodion, ac rydym ni wedi bod gweithredu fel ‘ma ers 2006. Mae Enochs yn wahanol i unrhyw beth rydych wedi’i flasu o’r blaen.
Llandudno
Os ydych yn chwilio am fwyd traddodiadol o safon mewn amgylchedd chwaethus a chroesawgar, dewch draw atom.
Llandudno
Beth am roi cynnig ar Barnacles i fwynhau pysgod a sglodion traddodiadol ar lan y môr? Cewch fwyta i mewn neu ddewis bwyd i fynd.
Colwyn Bay
Siop pysgod a sglodion traddodiadol gyda chyfleuster bwyd i fynd a bwyty trwyddedig.
Llandudno
Meicro-dafarn yn Llandudno sy’n cynnig cwrw casgen go iawn. Mae Tapps yn far bach, modern a chŵl gydag awyrgylch hamddenol braf.
Conwy
Gyda seddau awyr agored yn edrych dros y marina, mae The Mulberry yn lle gwych i ymlacio a mwynhau pryd o fwyd gyda ffrindiau, teulu, a hyd yn oed y ci!
Llandudno
Mwynhewch olygfeydd heb eu tebyg ar draws y Promenâd hyd at Drwyn y Fuwch wrth fwyta.
Penrhyn Bay
Pysgod a sglodion traddodiadol wedi'u coginio'n ffres i'w harchebu; pasteiod stêc a chwrw cartref i fynd gyda chi neu eu bwyta yno.
Colwyn Bay
Caffi hyfryd ym Mae Colwyn gyda bwydlen amrywiol. Ar agor am frecwast, brecinio, cinio a chacennau cartref.
Llandudno
Yn gweini te, coffi, prydau traddodiadol a dewis anferthol o gacennau cartref ar stryd fawr Llandudno.
Colwyn Bay
Beth am ymweld â ni yn ein siop ym Mae Colwyn lle gallwch brynu ein bara, cacennau a brechdanau ffres.
Conwy
Cwmni da, bwyd gwych, golygfeydd gwych - Mae ein tafarn deuluol, sydd wedi'i hadnewyddu i’r dim, yn cynnig croeso cynnes i bawb.
Rhos-on-Sea
Ym mwyty Forte’s, rydyn ni’n falch o gynnig dau beth: profiad bwyta hamddenol a chyfeillgar a bwydlen eang sy’n cynnig rhywbeth i bawb.
Llandudno
Pysgod a sglodion blasus a rhesymol dafliad carreg o draeth Llandudno. Beth arall sydd ei angen arnoch?
Conwy
Mae Siop Hufen Iâ Parisella yn cynnwys siop hufen iâ gyda man eistedd yn y cefn sy’n gweini diodydd poeth ac oer, crempogau, wafflau, cacennau a hufen ia gydag ychwanegiadau mewn dysgl, wedi’i leoli ar Stryd Fawr Conwy.
Conwy
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, mae Cantîn yn gweini coffi, brecwast, cinio, cacennau a mwy!
Conwy
Yng nghanol Conwy, mae Pen-y-Bryn yn adeilad traddodiadol o’r unfed ganrif ar bymtheg.
Rhos-on-Sea
Cartref pizzas wedi’u coginio ar dân yng Ngogledd Cymru. Pizzas wedi’u gwneud yn arbennig i bob archeb gan ddefnyddio cynhwysion lleol a’u pobi o’ch blaen yn ein poptai tân.
Llandudno
Ystafelloedd te chwaethus gyda thema Alys yng Ngwlad Hud yn gweini brechdanau, teisenni a thatws trwy'u crwyn.