Atyniadau awyr agored yn Sir Conwy
Os ydych yn chwilio am bethau i’w gwneud yng ngogledd Cymru, dyma’r lle i chi! Mae Sir Conwy yn gartref i nifer o brif atyniadau gogledd Cymru. P’un a ydych yn chwilio am atyniadau ar lan y môr i fwynhau awel ffres y môr, neu os ydych awydd mentro ymhellach i’r mewndir i edmygu mynyddoedd Eryri, mae gennym atyniadau perffaith i’r teulu cyfan eu mwynhau.
Yr atyniadau gorau yng ngogledd Cymru
Yn 2018, ymwelodd bron i 10 miliwn o bobl â Sir Conwy, sef y sir a gafodd y nifer fwyaf o ymweliadau yng ngogledd Cymru. Y rheswm syml am hyn yw bod nifer o brofiadau gwych ar gael i bawb eu mwynhau. O lagwnau syrffio mewndirol i reidiau car cebl ar Y Gogarth yn Llandudno, mae Sir Conwy yn cynnig profiadau unigryw a chyffrous i bob ymwelydd.
Ychydig o ysbrydoliaeth...
Ewch draw i lagŵn syrffio mewndirol cyntaf y byd yn Adventure Parc Snowdonia yn Nolgarrog. Mae’r tonnau o waith dyn yn rowlio bob 90 eiliad ac mae gwersi a chyrsiau syrffio ar gael i bobl ar lefelau dechreuol, canolradd ac uwch. Perffaith ar gyfer pob ceisiwr adrenalin.
Am ddiwrnod mwy hamddenol, ewch draw i’r Sw Mynydd Cymreig ym Mae Colwyn. Cewch fwynhau amryw o sgyrsiau am anifeiliaid a mynd am dro o gwmpas yr holl gaeadleoedd gan edmygu’r golygfeydd panoramig syfrdanol dros Fae Colwyn a Mynyddoedd y Carneddau.
Os yw’n well gennych chi lan y môr, gallwch fwynhau nifer o draethau arobryn ledled y sir. Mae traethau Llanfairfechan, Penmaenmawr a Phenmorfa a Thraeth y Gogledd yn Llandudno i gyd wedi ennill gwobrau Baner Las yn 2019. Fel arall, ewch i fwynhau golygfeydd o’r môr o Ben y Gogarth yn Llandudno! Gallwch deithio i ben y Gogarth ar geir cebl enwog Llandudno neu Dramffordd Y Gogarth yn ystod y gwanwyn a’r haf, a cherdded i fyny yn ystod misoedd oer y gaeaf.
Gall y rheiny sydd am drochi eu hunain mewn hanes a diwylliant Cymreig fynd draw i Gastell Conwy sy’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Ar ôl edrych o gwmpas y castell beth am fynd am dro ar hyd muriau tref Conwy cyn mynd i lawr at Gei Conwy i edmygu’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain?
Lluniwch amserlen i’ch gwyliau
Am beth ydych chi’n aros? Porwch trwy ein rhestr o atyniadau awyr agored a dechreuwch greu amserlen eich gwyliau heddiw. Ar ôl i chi greu amserlen, ceisiwch weld a oes modd i chi archebu tocynnau i’ch atyniadau dewisedig o flaen llaw. Mae gostyngiad i’w gael wrth archebu'n gynnar fel arfer. Fel arall gallwch brynu tocynnau i rai o’n hatyniadau o’n siop ar-lein.