1. Gerddi Dŵr Conwy a’r ‘Dutch Pancake House’

Mae Gerddi Dŵr Conwy yng nghanol dyffryn coediog ac ar agor trwy gydol y flwyddyn.  Mae’n gartref i fwyty crempogau poblogaidd iawn ‘The Dutch Pancake House’. Mae 65 o wahanol grempogau gyda dewisiadau melys a sawrus ar gael.  Mae’r bwyty crempogau hwn yn berffaith i’r rheiny sy’n awchu am grempogau traddodiadol.

Ar ôl llowcio’ch crempogau, gallwch fynd am dro o amgylch y safle a mwynhau'r awyrgylch llonydd sydd yno. Fe welwch foch dŵr, ffesantod, hwyaid a dyfrgwn yn mwynhau yn eu huned bwrpasol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.  

  1. Bwyty Hickory’s Smokehouse, Llandrillo-yn-Rhos

Mae bwyty Hickory’s Smokehouse yn Llandrillo-yn-Rhos yn enwog am eu pentwr o grempogau arddull Americanaidd a gall cwsmeriaid fwynhau brecwast moethus o grempogau melys a sawrus. Dewiswch rhwng y compot glasaeron a hufen, neu gig moch a surop masarn (credwch ni, mae o’n gweithio). Mae crempogau ar gael tan 11am bob dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul. Felly beth am ddechrau’r penwythnos gyda phentwr o grempogau blasus yn Hickory’s?

  1. Caffi Hufen Ia Fortes

Er bod caffis Fortes yn adnabyddus am eu hufen ia a ysbrydolwyd gan rysáit Eidalaidd cartref traddodiadol, maen nhw hefyd yn gweini wafflau a chrempogau poeth ffres. Mae gan Fortes gaffis yn Llandudno a Llandrillo-yn-Rhos ac maen nhw’n lleoliadau perffaith i'r rheiny â dant melys. Gallant ddarparu ar gyfer anghenion deietegol hefyd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

  1. Bwyty Dylan’s

Mae Bwyty Dylan’s ar East Parade yn nhref Fictoraidd Llandudno ac mae’n edrych allan ar olygfeydd hyfryd o Fae Llandudno a'r promenâd. Parwch yr olygfa hon ag un o'r crempogau blasus ar eu bwydlen ac fe gewch noson werth chweil. Peidiwch â methu tîm bwyty Dylan’s yn taflu crempogau melys a sawrus amrywiol ar ddydd Mawrth Ynyd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar eu tudalen Facebook.

  1. Parlwr Hufen Iâ ‘The Looking Glass’

Mae Parlwr Hufen Iâ ‘The Looking Glass’, sydd wedi’i enwi i nodi’r cysylltiad rhwng Llandudno â’r Alys yng Ngwlad Hud go iawn (Alice Liddell), yn cynnal noson grempogau yn y caffi ar Mostyn Street, Llandudno. Gall gwesteion fwynhau amrywiaeth eang o lenwadau o grempogau traddodiadol lemon a siwgr i gyfuniad poblogaidd banana a Nutella. Gall cwsmeriaid fwynhau talp mawr o hufen iâ cartref ar ben eu crempog hefyd. Cliciwch yma am fwy o fanylion.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb