Mynydd Sleddog Adventures

Dyma’r unig atyniad a’r cyntaf o’i gath yng Nghymru gyda sleidiau a chŵn, ac mae’n cynnig cyfleoedd gwych i unigolion, teuluoedd a grwpiau i fwynhau eu hantur cŵn llusgo ar hyd llwybrau troellog a rhewllyd yng nghanol y goedwig. 

Go Below, ger Betws-y-Coed 

Antur Danddaearol Go Below ger Betws-y-Coed yw’r profiad tanddaearol dramatig eithaf. Ymysg cyn fwyngloddiau yng nghrombil mynyddoedd Eryri, mae yna fyd o lynnoedd glas dwfn, gwifrau gwib, pontydd, ysgolion ac abseiliau. Mae’n gwrs rhwystrau heb ei ail.

Llwybr Arfordir Cymru

Bydd Llwybr chwedlonol Arfordir Cymru’n dathlu 10 mlynedd eleni, ac nid oes yna adeg wael i grwydro ein rhan ni o’r llwybr arbennig hwn. 

Mae’n ymestyn oddeutu 35 milltir rhwng Bae Cinmel a Llanfairfechan, felly bydd gennych ddigon o lwybrau glan y môr i ddewis ohonynt.

Castell Dolwyddelan

Efallai ei fod yn llai na Chonwy, ond mae Castell Dolwyddelan yn dal yn seren. Wedi’i adeiladu gan Llywelyn Fawr (Tywysog Gwynedd o’r 13eg ganrif ac arweinydd gwirioneddol y mwyafrif o Gymru), mae ei leoliad ar grib greigiog ymhlith copaon Eryri yn ddramatig iawn. 

Gellir ymweld â’r castell o’r tu allan drwy gydol y flwyddyn.

Amgueddfa ac Oriel Llandudno

Mae Amgueddfa ac Oriel Llandudno yn gist drysor o bopeth lleol – o’r cyfnod cyn hanes ac oes y Rhufeiniaid i dwf Llandudno fel cyrchfan wyliau glan môr. Mae uchafbwyntiau’r ailddatblygiad yn cynnwys orielau newydd, arddangosfeydd a dehongliadau a hwyl i’r teulu. 

Gardd Bodnant, Eglwysbach

Pryd bynnag yr ymwelwch, mae Gardd Bodnant wastad yn brydferth. Gardd Gaeaf Bodnant, a grëwyd yn y 10 mlynedd ddiwethaf, yw trysor y tymor. Mae’r gyn ardd gerrig wedi datblygu’n arddangosfa liwgar gyfoethog o ddail a blodau sy’n gwneud y mwyaf o haul y gaeaf – ac yma yw man cychwyn taith trwy 80 erw o hud y gaeaf.  

Gwarchodfa Natur RSPB Conwy, Aber Afon Conwy

Mae Gwarchodfa RSPB Conwy, safle gwlypdir ar ymyl y foryd, yn werddon dawel o lonyddwch, dafliad carreg oddi wrth yr A55.

Yn y gaeaf cadwch lygad am haid o adar yn cynnull i fwyta, neu’n clwydo gyda’i gilydd gyda’r cyfnos i gadw’n gynnes.

Distyllfa Penderyn, Lloyd Street, Llandudno   

Penderyn yw cartref Wisgi Cymreig ac mae wedi ail-gyflwyno distyllu i Gymru yn dilyn dros ganrif. Maent yn cynhyrchu wisgi Cymreig a gwirodydd poblogaidd ac yn allforio i dros 50 o wledydd ar draws y byd. 

Beth am archebu lle ar un o’ deithiau’r distyllfa neu gwrs meistr wisgi yn Llandudno, er mwyn blasu samplau o wisgi Cymreig a dysgu beth sy’n gwneud Distyllfa Penderyn mor unigryw.  

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.