Beth am fwynhau te prynhawn gyda golygfeydd godidog o gefn gwlad neu lan y môr; mae yna ddigonedd o leoedd i chi fynd â’ch mam ar Sul y Mamau, neu unrhyw bryd arall, yma yng Nghonwy.

Neuadd Bodysgallen

Gadewch i’ch llygaid wledda ar frechdanau bychain ffres, cacennau a theisennau crwst a sgons cartref cynnes gyda hufen tolch a jam mefus, oll wedi’u cyflwyno ar blatiau cacen tair haen, ynghyd â’ch dewis o de. Mae’n bosib iawn y bydd yr olygfa ysblennydd drwy’r ffenestri mwliwn carreg yn eich denu i fynd am dro drwy’r gerddi wedyn.

I archebu, ffoniwch 01492 584466 neu prynwch docyn anrheg yn www.bodysgallen.com

Gwesty St George

Te Prynhawn yng Ngwesty St George sy’n edrych dros Fae bendigedig Llandudno.

Mwynhewch brynhawn braf yn Lolfa hyfryd y Teras yn blasu danteithion melys a sawrus ein Te Prynhawn enwog yma yng Ngwesty St George yn Llandudno.

Prisiau o £19 y pen

I archebu, ffoniwch 01492 877544 neu anfon neges e-bost i reception@stgeorgeswales.co.uk

Bwyty Next Door yng ngwesty Dunoon

Maen nhw’n gweini eu te prynhawn yn Lolfa Flaen gwesty Dunoon neu yn eu bwyty Next Door rhwng 2pm a 5.30pm bob dydd.

I archebu, ffoniwch 01492 860787 neu anfon neges e-bost i dunoonhotel@gmail.com

Brechdanau ffres, cacennau a sgons cartref gyda the a choffi, i gyd am £20 y pen.

Mae llawer mwy o ddewisiadau ar gael yng Nghonwy a’r cyffiniau! (cysylltu’n ôl â’r brif dudalen Te Prynhawn)

Bryn Williams @ Porth Eirias

Dafliad carreg yn unig o’r môr a thraeth bendigedig Porth Eirias, mae bistro Bryn Williams. Yn yr ystafell fawr agored hon gyda’i hawyrgylch braf, hamddenol, mae yna gegin agored lle gallwch chi wylio tîm Bryn o gogyddion yn gweithio.

Mwynhewch De Prynhawn Ger y Môr

Detholiad o frechdanau, eitemau traddodiadol fel bara brith gyda menyn hallt a chacennau cri gyda’n jam cartref ein hunain, ac i goroni’r cwbl, cymysgedd cain o ddanteithion melys blasus.

Caiff ei weini am 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener am £14.95 y pen, neu £21.95 gyda gwydraid o Prosecco. Rhaid archebu ymlaen llaw. Ffoniwch ni ar 01492533700.

Upstairs at Annas

Mae Upstairs at Anna’s yn allweddol i gwblhau eich ymweliad ag ardal braf Conwy.   Trysor cudd llawr cyntaf yng nghanol safle treftadaeth UNESCO yng nghysgod Castell mawreddog Conwy. Ewch i mewn drwy ein drws ffrynt pinc i ystafell groesawgar wedi’i dylunio’n unigryw, mae’r adeilad rhestredig gradd II yn llawn steil a chymeriad hanesyddol. Mwynhewch de prynhawn bendigedig a gwasanaeth o’r radd flaenaf gyda bar trwyddedig a dewis eang o goctêls. 

Tu Hwnt i’r Bont

Mae Tu Hwnt i’r Bont yn adeilad rhestredig gradd II o’r 15fed ganrif ac yn ystafell de yn Llanrwst. Mae bwthyn adnabyddus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn sefyll ar lan afon Conwy, yr ochr draw i’r Bont Fawr.

Gynt yn llys gyda hanes difyr, mae Tu Hwnt i’r Bont bellach yn cynnig detholiad o de a choffi moethus i’r cyhoedd ac amrywiaeth o fwyd, cacennau a hufen iâ enwog Parisella o Gonwy.

Yn ogystal â the prynhawn traddodiadol, fel te prynhawn siampên, gall cwsmeriaid hefyd brynu detholiad o gynnyrch cartref hyfryd fel bara brith, jamiau, catwadau, sgons a mwy

Caru bwyta?…mae llawer mwy o ddewisiadau bwyd ar gael yng Nghonwy a’r cyffiniau! Cliciwch yma i fynd i’n prif dudalennau bwyd a diod.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.