Ymunwch â ni yn sir hardd Conwy wrth i’r dyddiau ymestyn ac wrth iddi gynhesu. 

Cewch weld ein tirweddau a’n gerddi’n bywiocáu gyda lliwiau’r gwanwyn a bydd dathliadau hwyliog yn codi ysbryd pawb!

Rydym wedi dethol 10 llwybr poblogaidd lle gallwch archwilio a chysylltu gyda byd natur ac rydym wedi cyflwyno rhai awgrymiadau lle gallwch ymlacio a mwynhau bwyd blasus ar ôl cerdded. 

1) Bodnant yn ei Blodau

Mae’n rhy dda i’w golli. Mae Gerddi Bodnant yn lle heb ei ail i grwydro, a dychwelyd fis ar ôl mis i fwynhau pob sioe newydd o liw, o ddolydd llawn cennin pedr a charpedi o glychau’r gog i goed ceirios llawn blodau ysgafn. Mae Bwa Tresi Aur enwog yr ardd yn blodeuo o ddiwedd Mai. Y twnnel 180 troedfedd / 55m hwn o flodau melyn trwm yw’r mwyaf ysbrydoledig o’r cyfan. 

2) Taith Gerdded Rhaeadr y Graig Lwyd

Archwiliwch goetir brodorol hynafol gyda nifer o lwybrau a golygfannau a chewch eich swyno gan Raeadr ysblennydd y Graig Lwyd sy’n cuddio yng nghanol y coetir.

Beth am ddilyn hyn gydag ymweliad â Conwy Falls Café lle maent yn gweini brecwast blasus drwy’r dydd.

3) Mae’n wych i fod yn fyw

Dyma sut y byddwch yn teimlo ar frig Y Gogarth, sef y pentir sy’n ymgodi fel anghenfil y môr uwch tref Llandudno.

Mae tri llwybr i’r copa wedi eu harwyddo i roi digon o gyfle i chi i fwynhau’r golygfeydd godidog. Gellir gweld blodau gwyllt y gwanwyn yn sbecian drwy laswelltir calchfaen, adar y môr yn ymgasglu ar y clogwyni a dros 20 o rywogaethau o löynnod byw.

Ar eich ffordd i lawr gallwch ddilyn Llwybr Gerddi Haulfre a galw heibio Ystafelloedd Te Haulfre lle ceir golygfeydd panoramig ar draws tref Llandudno a thu hwnt! Cewch yr holl wybodaeth ar Daith y Gogarth isod.

4) Y ffordd i deithio

Ewch i weld ein harfordiroedd ar ddwy olwyn drwy feicio rhannau (neu’r cwbl, os ydych chi’n teimlo’n egnïol) o Lwybr Beicio Conwy sy'n 30 milltir o hyd gydag arwyddion i’ch arwain ar hyd yr arfordir o Lanfairfechan i Fae Cinmel. 

5) Llwybr Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos

Darganfyddwch bentref deniadol Llandrillo-yn-Rhos ac ymgollwch yn ei hanes cyfoethog. Mae’r prif lwybrau’n mynd â chi ger eglwys enwog Sant Trillo a Gerddi Combermere. Ewch i weld yr ystod o gaffis annibynnol yng nghanol Llandrillo-yn-Rhos.

6) I ffwrdd â ni

Ar ddiwrnod braf o wanwyn nid oes unman gwell i fynd na Mynydd Hiraethog, y rhostir sy’n ymlwybro draw i’r pellter o dan awyr di-ben-draw. 

Ewch i Ganolfan Ymwelwyr Llyn Brenig yn gyntaf i weld lle rydych chi ac i ddysgu am deithiau cerdded a theithiau beicio lleol. 

7) Llwybr Trefriw - Llanrwst

Parciwch ym mhentref tawel Trefriw am daith fer, ar dir gwastad o Drefriw i Afon Conwy. Dilynwch y daith hon sy’n addas i’r teulu heibio i barc chwarae, coetir ac i Bont Gower ac yna aildroediwch yr un llwybr yn ôl a galw ym Melin Wlân Trefriw, neu fel arall croeswch y bont grog i grwydro Llanrwst ac ewch i un o’r caffis bach i gael eich nerth yn ôl cyn cerdded yn ôl. 

8) Llwybr Alwen

Mae’r daith gylchol hyfryd hon o amgylch Cronfa Ddŵr Alwen yn dilyn llwybrau a thraciau ar hyd ymyl y gronfa ac i fyny i rostiroedd Mynydd Hiraethog. 

Ar ôl eich antur mwynhewch y bwyd a’r golygfeydd godidog yng nghaffi Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig.     

9) Croesawch fyd natur

Golygfeydd panoramig ysblennydd i’w mwynhau ar daith gerdded Ucheldir Pensychnant a gallwch archwilio Canolfan Gadwraeth Natur Pensychnant . Yn y tiroedd 150-erw fe allwch brofi heddwch Pensychnant wrth i chi ddysgu am y bywyd gwyllt a cherdded o amgylch adfeilion canoloesol a rhostir. 

Mae’r ganolfan hefyd yn cynnal darlithoedd ar fywyd gwyllt ac arddangosfeydd celf.

10) Cerdded y muriau

Adnewyddwch eich ysbryd drwy gerdded ar hyd muriau canoloesol Conwy. Ynghyd â Chastell carreg tywyll, hollbresennol Conwy, mae’r gylchdaith hon sy’n ¾ milltir o hyd, y fwyaf cyflawn yn Ewrop, yn gwarchod drysfa o lonydd a strydoedd cefn cul.         

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.