Eisiau difyrru eich plant dros y Pasg? Beth am fwynhau gwyliau yn Sir Conwy? Mae gennym bopeth, o weithgareddau llawn hwyl yn Nyffryn Conwy i lwybrau bywyd gwyllt ar arfordir Gogledd Cymru. Yn ychwanegol at hynny, mae gennym ystod eang o lety at ddant pawb!

Y Pasg hwn, gallwch fwynhau crwydro waliau a chastell canoloesol Conwy, mynd am dro ar hyd y cei, darganfod golygfeydd godidog Llandudno o Dramffordd y Gogarth, neu ewch lawr i Ddyffryn Conwy gyda char neu drên gan fwynhau golygfeydd hardd a stopio ym mhentrefi Llanrwst, Betws-y-Coed neu Ddolwyddelan.

Hefyd mae amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau’r Pasg yn digwydd yn, ac o amgylch Conwy at ddant pawb.

Dyma ein 10 awgrym gorau ar gyfer gweithgareddau i chi eu gwneud yn Sir Conwy y Pasg hwn.

1. Crwydrwch Gastell Conwy a waliau hynafol y dref

2. Ceisiwch wasgu i mewn i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain Fawr ar Gei Conwy!

3. Ewch ar drên bach Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy ym Metws-y-Coed

4. Dilynwch Bertie’r Afr ar Lwybr Treftadaeth newydd sbon Llandudno 

5. Ewch i lan y môr Bae Colwyn a’r Sŵ Fynydd Gymreig

6. Galwch heibio Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig cyn mwynhau taith gerdded neu feicio o amgylch y llyn

7. Beth am gwrdd â’r anifeiliaid yn Fferm Manarafon ger Abergele

8. Faint o adar y gallwch chi eu gweld yng Ngwarchodfa Natur RSPB Conwy yng Nghyffordd Llandudno

9. Ewch ar y môr gyda thaith gwch o Gonwy neu Landudno

10. Dilynwch lwybr yr Helwyr Hanes yn Amgueddfa Penmaenmawr

Edrychwch ar weddill ein rhestr o bethau i’w gwneud yng Nghonwy, neu pan fyddwch yma, ewch i weld y timoedd cyfeillgar yn ein Canolfannau Croeso yn Llandudno, Conwy a Betws-y-Coed.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.