Yn hydref

Gyda’r dail yn troi’n euraidd a hwyl yr ŵyl ar ddod, mae’r hydref yn un o’n hoff dymhorau.

Dyma ambell reswm pam ddylech chi drefnu antur yng Nghonwy’r hydref hwn.

1. Mae tymereddau is yr hydref yn berffaith ar gyfer beicio

Mae diwrnodau braf yn yr hydref yn ddelfrydol i fynd am dro ar gefn eich beic. O’r arfordir i draws gwlad, mae gan Ogledd Cymru ddigonedd o lwybrau cyffrous. Un sydd wedi cyffroi’r beicwyr yw Traws Eryri, llwybr newydd ar draws ardal Eryri. Dewch â’ch beic mynydd ‘hardtail’ eich hun, neu mae modd llogi un yn lleol, ac ewch ar antur.

2. Gweld bywyd gwyllt wrth grwydro’r arfordir a chefn gwlad!

Wrth i chi ymlwybro drwy’r coed a chefn gwlad agored, mae modd canfod aeron yn y llwyni a madarch yn cuddio yn y dail. Mae’r adar yn canu ar ôl cyfnod tawel ar ddiwedd yr haf, ac yng Ngwarchodfa Natur yr RSPB Conwy, mae’r ymfudwyr tymhorol fel y chwiwell a’r corhwyaid yn dechrau cyrraedd. Cerddwch ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Cymru yng Nghonwy, ac efallai y cewch weld morloi ifanc. Mae morloi llwyd yn bridio yng Ngogledd Cymru bob blwyddyn.

3. Tamaid o adloniant

Pop, comedi, opera, drama, dawns ... maen nhw i gyd ar y rhaglen yn Venue Cymru, lleoliad adloniant a chelfyddydau mwyaf Gogledd Cymru.

Ydi o’n dda? O, ydi mae o! (mae pantomeim ar y rhaglen hefyd ar gyfer tymor y gaeaf).

Mae’r hydref yn gyfnod prysur yn Theatr Colwyn ym Mae Colwyn hefyd, gydag ystod eang o adloniant, gan gynnwys ffilmiau poblogaidd a sioeau byw i deuluoedd. 

4. Mae atyniadau arswydus Conwy’n dod yn fyw yn ystod cyfnod Calan Gaeaf 

Wrth i Galan Gaeaf agosáu, mae ysbrydion yn dechrau ymddangos yn adeiladau hanesyddol Conwy. Mae’r cyfan yn rhan o’r hwyl. I ymuno yn yr hwyl, ewch i roi cynnig ar Ystafell Ddianc y Mynaich Gwallgof yng Nghastell Conwy, dilynwch y Llwybr Calan Gaeaf Arswydus ym Mhlas Mawr, archwilio castell arswydus ar daith ysbrydion Escape Alive neu ewch ar Helfa Ysbrydion yng Nghastell Gwrych. I brofi eich dewrder, beth am geisio osgoi’r clowniau arswydus ar y reidiau yn Zip World Ffear Fforest ym Metws-y-coed - os ydych chi’n ddigon dewr. 

5. Os yw’n oer, mae modd cynhesu drwy fwynhau bwyd a diod blasus 

Yn barod i ymlacio ar ôl bod am dro? Mae tafarn gynnes gyda thân coed yn anodd ei churo. Mae nifer o’r bwytai a thafarndai gorau yng Nghonwy yn cynnig helgig, madarch a llysiau’r hydref adeg yma’r flwyddyn. Yn Llandudno, mae modd croesawu’r tymor gyda llwncdestun i’ch cynhesu yn Nistyllfa Penderyn. Yn enwog am wisgi brag sengl Cymreig, mae Penderyn yn cynnig teithiau byr a dosbarthiadau meistr manwl, yn canolbwyntio ar grefft a gwyddoniaeth cynhyrchu. 

6. Mae modd gwylio tân gwyllt ar lan y môr 

Tra bo sawl rhan o’r DU yn dathlu Noson Tân Gwyllt ar 5 Tachwedd, mae pethau’n wahanol yn Llandudno. Cynhelir Arddangosfa Tân Gwyllt Llandudno ar Draeth y Gogledd, sy’n golygu bod y dyddiad yn cael ei bennu gan y llanw. Yn 2023, yn dibynnu ar y tywydd, cynhelir yr arddangosfa ddydd Sul 29 Hydref. Cewch eich synnu gan yr holl glecian a lliw.

Cyneuir Coelcerth a Thân Gwyllt Bae Colwyn nos Wener 3 Tachwedd a chynhelir Arddangosfa Tân Gwyllt Abergele nos Sadwrn 4 Tachwedd.

7. Er bod yr haf ar ben, mae sawl lle gwych i aros ynddynt

Mae Sir Conwy wir yn gyrchfan gydol y flwyddyn, gyda digonedd o westai, tai llety, Gwely a Brecwast ac eiddo hunanarlwyo ar agor gydol y flwyddyn. Os ydych chi am fwynhau gwyliau diwylliannol gydag amgueddfeydd, orielau a siopau, gallai gwesty mewn tŷ tref fod yn berffaith i chi. Ond os yw’n well gennych fod yng nghefn gwlad, mae modd mwynhau bythynnod gwledig cynnes Conwy, lle y cewch dynnu eich esgidiau a theimlo’n gartrefol.

Ydych chi wedi dechrau eich siopa Nadolig? Mae gennym amrywiaeth o anrhegion Nadoligaidd i'r teulu cyfan, neu os ydych chi awydd anrheg i chi'ch hun.

Cymerwch olwg ar ein siop ar-lein Dewch i Gonwy.

Cliciwch yma i bori drwy'r casgliadau.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.