Mae Conwy yn llawn digwyddiadau Nadoligaidd, o farchnadoedd i nosweithiau siopa’n hwyr a gorymdeithiau – sy’n cynnig profiad Nadolig hudolus i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Mae siopa’n lleol am anrhegion Nadolig yn syniad gwych! Mae cefnogi busnesau lleol yn cyfrannu at economi’r gymuned yn ogystal ag arwain at ganfod anrhegion unigryw a phersonol.

Wrth i’r Nadolig agosáu mae Conwy yn deffro gydag amrywiaeth o siopau annibynnol yn gwerthu crefftau traddodiadol Cymreig, bwyd a diodydd arbennig, cynnyrch artisan; a siopau bwtîc a marchnadoedd yn cynnig amrywiaeth eang o anrhegion hyfryd ac unigryw lleol.

Bydd llawer o siopau ar hyd a lled Conwy yn ymestyn eu horiau agor, gan roi mwy o hyblygrwydd i gwsmeriaid ganfod yr anrhegion perffaith.

Dyma gipolwg sydyn ar gyfleoedd siopa a digwyddiadau Conwy:

Bae Colwyn

Nosweithiau siopa hwyr bob nos Iau o 23 Tachwedd tan 21 Rhagfyr, 5pm tan 8pm

Marchnadoedd Artisan y Gaeaf – 18 Tachwedd a 9 Rhagfyr, 10am tan 4pm

Llandudno

Wythnos Siopa’n Hwyr – 13 tan 16 Rhagfyr (nos Fercher i nos Sadwrn) gyda llawer o’r siopau ar agor tan 8pm. Dilynwch lwybr y Nadolig a fydd yn mynd â chi ar daith o gwmpas y busnesau lleol a’u casgliadau o arddangosfeydd Nadolig.

Gorymdaith y Nadolig – 2 Rhagfyr am 4pm Sefwch mewn rhesi ar hyd strydoedd Llandudno i weld arddangosfa ryfeddol o oleuadau a cherddoriaeth, a chofiwch godi llaw ar Siôn Corn.

Bydd pentref Craig y Don yn ymuno â Llandudno ar gyfer eu cyfnod siopa hwyr y nos rhwng 13 Rhagfyr a 16 Rhagfyr

Ychydig bellter o brif lain Llandudno. Mae gan Craig y Don lawer o siopau anrhegion a chrefftau, siop flodau, bwytai blasus a mwy..

Abergele

Llwybr Dynion Eira Abergele a Noson Siopa’n Hwyr – 9 Rhagfyr

Yn ystod y dydd, rhwng 10.30am a 2.30pm, fe allwch chi ddilyn llwybr y dynion eira o gwmpas busnesau lleol a darganfod llawer o anrhegion unigryw, ac yna gyda’r nos fe allwch chi fwynhau ychydig o siopa gyda llawer o’r siopau ar agor tan yr hwyr.

Ewch i Siop Ar-lein Dewch i Gonwy

Oeddech chi’n gwybod fod gan Dewch i Gonwy ei siop ar-lein ei hun gyda dewis o anrhegion Cymreig, yn cynnwys llwyau caru, gemwaith, cofroddion a bwydydd a diodydd blasus Cymreig. Fe allwch chi hefyd brynu’r cynnyrch yma yn y Canolfannau Croeso yn Llandudno a Chonwy. Ewch at y siop yma

Marchnadoedd a Ffeiriau Nadolig

Hen Golwyn

2 Rhagfyr – Ffair Nadolig Hen Golwyn

Mi fyddwch chi’n siŵr o deimlo hwyl yr ŵyl yma yn y ffair Nadolig, gydag ymweliad gan Siôn Corn, stondinau, cerddoriaeth a llawer mwy. Digwyddiad i’r teulu cyfan.

Betws-y-coed

2 a 3 Rhagfyr – Marchnad Eryri a Marchnad Leol

10am tan 4pm

Gyda gwneuthurwyr artisan a chynhyrchwyr o Eryri a’r ardal. Dewch i gyfarfod y piclwyr, bragwyr, pobyddion, crochenwyr, gemyddion, ailgylchwyr, argraffwyr, ffotograffwyr, sgrifellwyr, cigyddion, distyllwyr, gweuwyr, pwythwyr, gosodwyr gemau, seiri coed, peintwyr, gwenynwyr, syllwyr sêr, gwneuthurwyr eli a hufen, cynhyrchwyr jam a theisenwyr

Ffair Nadolig Pensychnant

Dydd Sadwrn, 2 Rhagfyr a dydd Sadwrn, 9 Rhagfyr, 10-4pm.

Mae Pensychnant yn le arbennig i ddechrau eich dathliadau Nadolig.   Stondinau gyda chrefftau amrywiol: crochenwaith, troelli pren, brodwaith, boncyffion Swedaidd, jamiau a siytni, macramé, crefftau papur, paentiadau, gemwaith a chlychau gwynt, bocsys adar, ffotograffiaeth, llyfrau, cardiau a mwy.  Cyfle i ddarganfod anrhegion Nadolig anghyffredin ac arbennig; ac mae’r holl elw yn mynd at y gadwraeth natur ym Mhensychnant.

Gŵyl y Gaeaf Conwy - 9 Rhagfyr

Mae Gŵyl y Gaeaf Conwy’n ddigwyddiad cyffrous a drefnwyd gan berchnogion busnesau lleol yn nhref Conwy. Gyda diddanwyr stryd, cerddorion, corau, Dawnswyr Morris Clerical Error, ymladd cleddyf ar Sgwâr Lancaster, cnau castan poeth a llawer mwy. 

4pm - 7pm

Gorymdaith mewn golau ffaglau gyda Marchogion Arfog a'u Boneddigesau am 5.45pm.

Am rhestr llawn o ddigwyddiau yng Nghonwy eich i'n tudalennau Beth Sy' Mlaen

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.