Am
Mae Beachside Guesthouse yn cynnig llety ardderchog yn nhref glan môr Llandudno. Fe allwch chi gerdded i’r traeth mewn dau funud, a dydi’r orsaf reilffordd ddim yn bell chwaith (10 munud ar droed). Mae Cheryl a David, sydd wedi bod yma ers 12 mis, wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn ailwampio'r ystafelloedd i safon uchel.
Mae pob ystafell wedi’i haddurno’n ddel ar thema’r traeth. Mae yma ystafelloedd sengl, dwbl, brenin a brenin mawr. Mae cyfleusterau’r llofftydd yn cynnwys ystafell ymolchi breifat, peiriant sychu gwallt, teledu sgrin fflat a chyfleusterau gwneud paned. Bydd pob ystafell wedi’i hailwampio erbyn gwanwyn 2020.
Gallwch fwynhau dechrau da i’r diwrnod gyda brecwast ffres wedi’i goginio, wedi’i baratoi gyda chynnyrch lleol.
Mae yna lawer o fwytai, tafarndai a siopau yn y dref ac mae Gerddi'r Fach, Tramffordd y Gogarth a’r ceir cebl yn dro ychydig o funudau. Mae Pier Llandudno, sydd wedi ennill sawl gwobr, a’r Gogarth gyferbyn â’r eiddo. Ar ben hynny, mae yna lawer o atyniadau gwych yn yr ardal:
Traeth Penmorfa
Mwyngloddiau Copr y Gogarth
Promenâd Llandudno
Pier Llandudno
Venue Cymru
Am fwy o wybodaeth am ein gwesty, ewch i’n gwefan.
Cyfraddau: Rhwng £65 a £120 yr ystafell y noson.
4 Seren Croeso Cymru
Nodweddion ac Amwynderau
- Parcio oddi ar y stryd
- Gardd
- Croeso i blant
- WiFi
- Teledu Freeview
- Golff gerllaw
- Ger yr arfordir
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 5
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Ystafell ddwbl | £72.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell ddwbl | £72.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell deulu | £108.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell maint brenin | £81.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell sengl | £55.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
*Fel canllaw, rhoddir prisiau fesul ystafell fesul noson ar gyfer gwestai, gwestai bach, gwely a brecwast, fflatiau â gwasanaeth a fesul wythnos am lety hunanddarpar.
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Gwybodaaeth Covid-19
COVID-19 Response
- Allgofnodi digyswllt
- Archebu ar-lein yn bosibl
- Contactless payment possible
- Glanhau trylwyr rhwng ymwelwyr
- Glanweithydd dwylo ar gael i ymwelwyr a staff
- Gwasanaeth ystafell ar gael yn ystod cyfyngiadau Covid-19
- Mewngofnodi digyswllt
- Polisi ad-daliadau a chanslo Covid-19 yn ei le
- Rhaid archebu ymlaen llaw
- Wedi cau ar hyn o bryd
Cyfleusterau
Arall
- Licensed
- Private Parking
- Short breaks available
- Special diets catered for
- Tea/Coffee making facilities in bedrooms
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
- Wireless internet
Cyfleusterau Darparwyr
- Wifi ar gael