Am
LLETY GWELY A BRECWAST BWTIC CYFOES HYNOD BOBLOGAIDD A LLWYDDIANNUS YN LLANDUDNO YW ESCAPE. MAE’N CYNNIG LLETY NODWEDDIADOL, STEILUS A MOETHUS MEWN FILA FICTORAIDD UNIGRYW.
MAE’R 9 YSTAFELL WELY WEDI’U CYNLLUNIO’N UNIGOL A CHANDDYNT BERSONOLIAETH UNIGRYW EU HUNAIN, MAENT YN CYNNWYS YSTAFELLOEDD YMOLCHI EN SUITE MODERN, TELEDU MAWR Â SGRIN WASTAD, CHWARAEWYR BLU RAY, WI-FI AM DDIM YN OGYSTAL Â DOCIAU SAIN BOSE MEWN RHAI YSTAFELLOEDD. MAE GAN BOB YSTAFELL NODWEDDION SY’N RHOI’R ‘WAWFFACTOR’ I WESTEION, MEGIS HEN DDODREFN, DYLUNIADAU FFASIYNOL, GOLEUADAU CREADIGOL, A DILLAD GWLÂU A PHETHAU YMOLCHI ELEMIS MOETHUS
MAE HWN YN LLEOLIAD DELFRYDOL AR GYFER CYFARFODYDD A DATHLIADAU BUSNESAU BACH. GELLIR HEFYD DEFNYDDIO ESCAPE I GYNNAL PARTION.
ERS EI LANSIO YN 2004, MAE ESCAPE WEDI ENNILL SAWL ANRHYDEDD AC WEDI YMDDANGOS YN RHEOLAIDD YN Y WASG GENEDLAETHOL. YM MIS HYDREF 2019, CAFODD ESCAPE EI GYNNWYS AR RHESTR THE SUNDAY TIMES O’R 100 O WESTAI GORAU YM MHRYDAIN. DROS Y BLYNYDDOEDD DIWETHAF, RYDYM WEDI CYRRAEDD Y ROWND TERFYNOL YNG NGHATEGORI Y LLE GORAU I AROS CROESO CYMRU, CAWSOM EIN CYNNWYS AR RESTR “ TOP 10 LOVE NESTS FOR VALENTINES” THE GUARDIAN, “UK TOP TEN HOT B&B’S” YNG NGHYLCHGRAWN GAZIA, A CHASGLIAD ALSITAIR SAWDAY A WELSH RAREBITS.
RYDYM YN CYNNIG BRECWAST ARBENNIG GAN DDEFNYDDIO CYNNYRCH LLEOL, A GALLWN HEFYD ARLWYO AR GYFER DIETAU ARBENNIG.
NI YW’R DEWIS DELFRYDOL OS YDYCH YN CHWILIO AM LETY STEILUS A RHYWLE I YMLACIO, RYDYM HEFYD YN CYNNIG GWASANAETH PERSONOL CYFEILLGAR MEWN AWYRGYLCH HAMDDENOL.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 9
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Ystafell 2 wely sengl | o£125.00 i £140.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell ddwbl | o£90.00 i £160.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
*Ystafelloedd o £74 i £149, y pen, y noson, yn cynnwys brecwast.
Cyfleusterau
Arall
- Areas provided for smokers
- Credit cards accepted
- Licensed
- Private Parking
- Short breaks available
- Special diets catered for
- Tea/Coffee making facilities in bedrooms
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
- Wireless internet
Cyfleusterau Darparwyr
- Wifi ar gael