Am
Mae Amgueddfa ac Oriel Llandudno wastad wedi bod yn gist drysor o bopeth lleol – o’r cyfnod cyn hanes ac oes y Rhufeiniaid i dwf Llandudno fel cyrchfan wyliau glan môr.
Mae uchafbwyntiau’r ailddatblygiad diweddar yn cynnwys orielau newydd, arddangosfeydd a dehongliadau a hwyl i’r teulu.
Mae’r amgueddfa wedi’i lleoli yng nghanol Llandudno ac mae hi 5 munud i ffwrdd ar droed o Draeth y Gogledd a 15 munud ar droed o draeth Benmorfa. Mae’n agos at y safleoedd bysiau ar Gloddaeth Street, a 15 munud ar droed o’r orsaf reilffordd.
Beth sydd ar gael i ymwelwyr ei fwynhau?
- Dewch i ddarganfod gorffennol rhyfeddol Penrhyn Llandudno a Chreuddyn.
- Darganfyddwch am ein gorffennol pell a’r bobl gynnar a ymgartrefodd yma, yn cynnwys Blodwen, y fenyw Neolithig ar Drwyn y Fuwch. Cewch weld y darganfyddiadau hynod o Gaer Rufeinig Canovium yn cynnwys gêm strategol Latrunculi neu Filwyr Bach.
- Dewch i gyfarfod Clwb Maes Llandudno a’r Ardal a ffurfiwyd yn 1906 ac a gofnododd safleoedd hanesyddol lleol a phlanhigion ac anifeiliaid yr ardal. Roedd cadwraethwyr cynnar Mr G. A. Humphreys yn galw am warchod y cigfrain a hebogiaid ar Y Gogarth ym mis Gorffennaf 1906.
- Darganfyddwch stori ryfeddol yr arwr lleol Cyrnol Arnold a’i danc blwch cerddoriaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, neu ydych chi erioed wedi ystyried i ble’r aeth adran Cyllid y Wlad i osgoi’r ‘blitz’ yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yna dewch i ymweld â’r Oriel Ryfel.
- Cafodd ein casgliad o gelfyddyd gain ei adael gan ein cymwynaswr F.E Chardon a oedd yn artist ei hun a arddangosodd ei waith. Mae rhywfaint o’i waith gyda chelf a cherflunwaith gan artistiaid yr oedd yn eu hadnabod neu’n eu hedmygu i’w gweld yn Oriel Chardon, ynghyd ag eitemau a gasglodd wrth iddo deithio ar draws Ewrop, India ac Asia.
- Fe fyddwn ni’n agor ein Gardd Bioamrywiaeth yn fuan a fydd yn rhad ac am ddim. Mae’n leoliad i wylio, gwrando ac i gael moment o dawelwch.
Sut mae ymwelwyr yn archebu?
Archebwch docynnau gydag amser penodol trwy wefan yr amgueddfa.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae modd mynd â chadair olwyn i’r amgueddfa, ac mae lifft yno, ynghyd â chyfleusterau newid babanod ac mae toiledau i bobl anabl ar gael hefyd. Mae’r amgueddfa wedi’i addurno i fod yn addas i bobl sydd â dementia. Mae croeso i bawb, a gadewch i ni wybod os allwn ni wneud eich ymweliad yn un mwy pleserus.
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Family 2 adults plus 4 children | £16.00 teulu |
Group of 6 Adults (same household/bubble) | £30.00 oedolyn |
Oedolyn | £6.00 oedolyn |
Plentyn | £3.00 plentyn |
Student | £6.00 oedolyn |
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Gwybodaaeth Covid-19
COVID-19 Response
- Archebu ar-lein yn bosibl
- Ardaloedd prysur yn cael eu glanweithio’n rheolaidd
- Arwyddion clir
- Cadw pellter o 2m yn ei le
- COVID-19 measures in place
- Cwblhawyd asesiad risg Covid-19
- Glanhau trylwyr rhwng ymwelwyr
- Glanweithydd dwylo ar gael i ymwelwyr a staff
- Mae’n ofynnol i staff olchi eu dwylo’n rheolaidd
- Masg wyneb yn hanfodol (nid yn cael eu rhoi)
- Polisi ad-daliadau a chanslo Covid-19 yn ei le
- Sgriniau hylendid yn eu lle
- System unffordd
- Terfyn capasiti
- Time limited visits
- Yn agored nawr
Cyfleusterau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Caniateir Cw^n Cymorth
- Mae Pob Ardal yn Hygyrch i Ymwelwyr Anabl
- Ramp / Mynedfa Wastad
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael