Cerddwyr ar y bont ym Metws-y-Coed

Am

Mae’r gyfres hon o lwybrau cerdded cyn dechrau o faes parcio Pont y Pair ym Metws-y-Coed ac yn arwain drwy Goedwig Gwydir.

Llwybr Coed Tan Dinas - ¾ milltir/1.2 cilomedr, hawdd
Dilynwch y llwybr pren a’r llwybr llydan ar hyd glan yr afon ar y daith gerdded fer hon drwy goed uchel iawn. Edrychwch ar y ffynidwydd Douglas urddasol sydd yn gymaint â 100 mlwydd oed.

Llwybr Cerdded y Cyrau - 1½ milltir/2.5 cilomedr, anodd
Mae Llwybr Cerdded y Cyrau yn dringo heibio coed pinwydd Douglas ysblennydd lle ceir golygfa wych dros Fetws-y-Coed. Mae'r llwybr yn dychwelyd i'r pentref ar hyd ffordd goedwig â choed yn tyfu'r naill ochr a'r llall iddi.

Llwybr Cerdded Pen yr Allt - 4½ milltir/7.1 cilomedr, anodd
Mae Llwybr Cerdded Pen yr Allt yn gylchdaith drwy goedwigoedd pinwydd cysgodol ac uwch-ddolydd. Mae'r llwybr yn mynd heibio i fwyngloddiau segur a cheir golygfeydd trawiadol o Foel Siabod a Dyffryn Conwy. Mae'n dychwelyd ar hyd afon Llugwy (os bydd wedi bwrw glaw cryn dipyn, gall yr afon orlifo fan hyn a dylech ddilyn y gwyriad).

Llwybr Cerdded Llyn Parc - 6½ milltir/10.6 cilomedr, anodd
Mae Llwybr Cerdded Llyn Parc yn dechrau ar hyd hen lwybr glowyr ac yn mynd heibio i adfeilion Pwll Aberllyn. Ar ôl cyrraedd y llyn, mae'n parhau ar hyd y lan cyn mynd heibio i raeadr fechan ar ei ffordd nôl i'r pentref.

Cyfleusterau

Cyfleusterau Darparwyr

  • Toiledau

Nodweddion Darparwr

  • Croesawgar i gŵn
  • Yn y wlad

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Parcio ar y safle

Suitability

  • Families

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Llwybrau Cerdded o Bont y Pair yng Nghoedwig Gwydir

Llwybr Cerdded

Pont y Pair, Betws-y-Coed, Conwy, LL24 0BA

Beth sydd Gerllaw

  1. Mae Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd. Treuliwch…

    0.23 milltir i ffwrdd
  2. Adeiladwyd yr eglwys yn y 14eg Ganrif a hwn yw’r adeilad hynaf ym Metws-y-Coed. Mae…

    0.32 milltir i ffwrdd
  3. Mae Zip World Fforest wedi’i leoli yng nghanol harddwch Dyffryn Conwy, ychydig y tu allan…

    0.92 milltir i ffwrdd
  4. Mae’r Rhaeadr Ewynnol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle mae’r Afon Llugwy’n…

    1.85 milltir i ffwrdd
  1. Coedwig o lynnoedd a mynyddoedd yng nghanol Eryri. Mae Parc Coedwig Gwydir yn gartref i…

    1.98 milltir i ffwrdd
  2. Teithiau trwy 9.5 erw o goedwig gynhenid at raeadr drawiadol Conwy. Mynediad ar hyd tir…

    2.22 milltir i ffwrdd
  3. Cymdeithas Eryri sy’n gofalu am Tŷ Hyll. Mae pwy adeiladodd y tŷ a phryd yn parhau’n…

    2.32 milltir i ffwrdd
  4. Dechreuwyd gwaith adeiladu’r capel ym 1673, ac mae tu allan carreg syml y capel yn rhoi…

    2.68 milltir i ffwrdd
  5. Mae Castell Gwydir yn dŷ Cymreig hynafol yn harddwch Dyffryn Conwy, ar odre Eryri. Caiff…

    2.78 milltir i ffwrdd
  6. Er bod Cwm Wybrnant yn fan tawel ac anghysbell heddiw, mae’r lleoliad yn arwyddocaol iawn…

    3.11 milltir i ffwrdd
  7. Eglwys hanesyddol Gradd I a godwyd yn 1470, sy’n edrych dros afon Conwy yng nghanol…

    3.14 milltir i ffwrdd
  8. Cadarnle Cymreig aruchel mewn lleoliad mynydd trawiadol. ​​​​​Mae Dolwyddelan mor Gymreig…

    4.79 milltir i ffwrdd
  9. Wedi'i amgylchynu gan dirweddau godidog Gogledd Cymru, mae Sba ‘Wave Garden’ ym Mharc…

    6.95 milltir i ffwrdd
  10. Mae llyn dwfn naturiol Llyn Aled yng nghanol rhostiroedd uchel Hiraethog. Mae’n safle…

    8.01 milltir i ffwrdd
  11. Cartref plentyndod Syr Henry Jones (1852-1922) yw’r amgueddfa. Ganwyd Syr Henry Jones i…

    8.21 milltir i ffwrdd
  12. Mae Capel Seion yn enghraifft wych o gapel traddodiadol Cymreig a adeiladwyd yn ystod oes…

    9.81 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....