Am
A ydych chi erioed wedi breuddwydio am fynd ar daith fythgofiadwy i wlad ogoneddus llawn cyffro- gwlad sydd ar fin bod yn ‘Brifddinas Antur Ewrop’?
Dychmygwch fod yn rhan o antur fythgofiadwy anhygoel; teithio ar sled wedi’i thynnu gan dîm o gŵn a theimlo’r adrenalin a’r egni yn llifo drwyddoch wrth i’r tîm awchus ruthro’n gyffrous i’w harnesi. Cewch daith ar sled drwy lwybrau troellog, tonnog a barrugog wedi eu hamgylchynu gan goedwigoedd eang. Wrth i wres yr haul glirio’r niwl oeraidd, yn y pellter gallwch weld trwch o eira yn coroni’r mynyddoedd.
Wel, peidiwch â breuddwydio mwyach! Dyma’r gwirionedd yma yng Ngogledd Cymru.
Anturiaethau Mynydd Sleddog yw’r atyniad cyntaf cŵn tynnu sled yng Nghymru. Mae’r atyniad unigryw yma yn cynnig y cyfle i unigolion, teuluoedd a grwpiau i fwynhau antur cŵn yn tynnu sled. Mae Anturiaethau Mynydd Sleddog hefyd yn cynnig teithiau sled cynhyrfus gyda tîm o gŵn rasio hysgi
Mae gennym cwta ugain mlynedd o brofiad hyfforddi a rasio cŵn tynnu sled yn y DU a thramor. Rydym yn falch iawn o gynnig anturiaethau cyffrous iawn gyda’n cŵn. Ar hyn o bryd mae ein gweithgareddau yn cael eu cynnal yng Nghoedwig De’r Alwen ger Cerrigydrudion, Conwy gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydyn yn cynnig amrywiaeth o anturiaethau, megis:
Antur Cyfarfod y Tîm – Dyma gyfle unigryw i unigolion, teuluoedd a gwpiau i ymgolli’n llwyr yn chwaraeon sleddog; cyfle i gyfarfod a rhwydweithio gyda’n tîm o gŵn tynnu sled, yn ogystal â gwylio sesiwn hyfforddi’r cŵn rasio drwy’r goedwig. I gau’r sesiwn cewch gyfle am baned o siocled poeth a gwrando ar rai o straeon difyr am hanes chwaraeon a rasio sleddog.
Antur Tîm Rasio – Dyma brofiad anhygoel ar gyflymdra. Cewch gyfle i gymryd taith yn ein trol i deithwyr a fydd yn cael ei thynnu gan dîm o gŵn rasio. Bydd y tîm yn eich cludo ar daith wefreiddiol drwy lwybrau tonnog Coedwig De’r Alwen. Mae’r llwybrau wedi ei lleoli yng nghanol gweundir agored syfrdanol, gyda bryniau tonnog Cymru a chadwyn o fynyddoedd yr Wyddfa yn y cefndir. I gau’r sesiwn cewch gyfle am baned o siocled poeth a gwrando ar rai o straeon difyr am hanes chwaraeon a rasio sleddog.
Ymunwch â ni yma yng Ngogledd Cymru am antur awyr agored llawn adrenalin – dewch i Brifddinas Antur Ewrop!
Dilynwch ni ar Facebook: https://www.facebook.com/Xinaskyiisleddogs
Dilynwch ein tudalen Trydar ar @LtdMynydd
Pris a Awgrymir
Cysylltwch â Mynydd Sleddog Adventures Ltd yn uniongyrchol i gael gwybodaeth am becynnau a phrisiau.
Gwybodaaeth Covid-19
COVID-19 Response
- Archebu ar-lein yn unig
- Glanweithydd dwylo ar gael i ymwelwyr a staff
- Masg wyneb yn hanfodol (yn cael eu rhoi)
- Masgiau wyneb ar gael i ymwelwyr
- Polisi ad-daliadau a chanslo Covid-19 yn ei le
- Rhaid archebu cyfleusterau
- Rhaid archebu ymlaen llaw
- Terfyn capasiti
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
Teithio Grw^p
- Derbynnir bysiau