Croeso i wefan dwristiaeth swyddogol Sir Conwy. O’r fan hon, gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth rydych ei hangen i’ch helpu i gynllunio i ddod i Gonwy; lle mae Eryri’n taro’r môr.
Mae ein hardal ni’n ymestyn ar hyd arfordir tywodlyd Gogledd Cymru ac i’r tir, i fyny Dyffryn Conwy yn ei harddwch, ac mae’n cynnwys trefi enwog a phoblogaidd Llandudno, Conwy, Llanfairfechan, Penmaenmawr, Bae Colwyn, Abergele, Llandrillo-yn-Rhos, Llanrwst, Towyn, Deganwy a Betws-y-coed, porth Eryri.
Yma, mae traethau Baner Las anhygoel, y Gogarth, pier Llandudno, ceir cebl Llandudno, theatrau arbennig, sŵ gadwraeth ddiddorol, meysydd golff o’r radd flaenaf, mynyddoedd mawrion a dyffrynnoedd glas, cestyll godidog, a bwytai a thafarndai anhygoel a phob gweithgaredd awyr agored dan haul.
A dim ond blas yw hynny.
Mae ein gwefan hwylus hefyd yn cynnwys celf a diwylliant, cyngor ar deithio a gwybodaeth i ymwelwyr, atyniadau, gwyliau, digwyddiadau ac adloniant – a phob math o lety, o westai moethus i lety hunanarlwyo, tai gwely a brecwast i fythynnod gwyliau a pharciau carfanau gwych o ran gwerth.
Mae Sir Conwy’n denu nifer fawr o ymwelwyr o un flwyddyn i'r llall. Yn 2018, Conwy oedd y sir y daeth y nifer mwyaf o bobl iddi ar hyd arfordir Gogledd Cymru – ail i Gaerdydd yn unig am nifer yr ymwelwyr drwy’r wlad. Gyda help y wefan hon, fe gewch chi ddarganfod goreuon Gogledd Cymru a gweld pam mae 9 miliwn o bobl yn dewis dod ar wyliau i’r lle arbennig hwn.
Fe gewch chi hyd i wybodaeth am draethau tywodlyd, llefydd i siopa ac aros, chwaraeon a gweithgareddau ar y tir ac yn y dŵr, llwybrau cerdded a bywyd gwyllt.
Yn y rhan yma o’r byd, mae gwyliau byr a hir o bob llun a lliw i’w cael. Felly, p’un a ydych chi’n chwilio am wyliau i’r teulu yng Nghonwy neu benwythnos rhamantus yng Ngogledd Cymru, mae’r cyfan yma! Ewch i gael cipolwg!