Am
Gwybodaeth ynghylch Covid-19
Ailagor: 6 Gorffennaf
Rydym yn eich cynghori i ymweld â gwefan y busnes cyn teithio i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cyfyngiadau sydd ar waith yn yr atyniad hwn. Nodwch os gwelwch yn dda, mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw ar gyfer nifer o’r atyniadau a bydd amser penodol ar gyfer rhai tocynnau. Cadwch at y rheolau cadw pellter cymdeithasol, golchwch eich dwylo’n aml a chadwch yn ddiogel os gwelwch yn dda.
Mae Gerddi Bodnant Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n 80 erw ar ochr bryniau yn cynnwys terasau Eidalaidd, dolydd a choedwigoedd, gerddi ar lannau’r afon, a mwy na 250 mlynedd o hanes garddwriaethol. Mae’n gartref i blanhigion o bedwar ban, Pencampwyr Coed Cymru a chasgliadau botaneg. Mwynhewch gennin pedr, camellias, magnolias, rhododendrons yn y gwanwyn; rhosod, lili'r dŵr a blodau gwyllt yn yr haf; lliwiau cyfoethog y dail yn yr hydref; a Gardd Aeaf a ddyluniwyd yn arbennig. Ar agor drwy’r flwyddyn, ac eithrio Noswyl y Nadolig, Diwrnod y Nadolig a Dydd San Steffan. Mae croeso i gŵn ar adegau penodol – gweler y wefan am y cyfleusterau’n llawn a manylion am fynediad. Yn serennu yn ffilm 2020 The Secret Garden; dewch i ganfod pam...
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Oedolion (Safonol) | £16.30 oedolyn |
Plentyn 5-16 oed (Safonol) | £8.15 plentyn |
Teulu (Safonol) | £40.75 teulu |
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir Cerddwyr
- Trwydded i gynnal priodasau sifil
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
- Gwasanaeth arlwyo
- Safle Picnic
Cyfleusterau Darparwyr
- Mynediad Anabl
- Siop
- Toiledau
- Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
- Yn derbyn partïon bysiau
Deunydd Argraffedig mewn Ieithoedd Arall
- Deunydd Argraffedig Almaeneg
- Deunydd Argraffedig Cymraeg
- Deunydd Argraffedig Ffrangeg
- Deunydd Argraffedig Iseldireg
Dulliau Talu
- Derbynnir Grwpiau
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Caniateir Cw^n Cymorth
- Lleoedd Parcio i Ymwelwyr Anabl
- Ramp / Mynedfa Wastad
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Ieithoedd a siaredir
- Siaredir Cymraeg
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Maes parcio
- Parcio (am ddim)
Plant a Babanod
- Cyfleusterau newid babanod
Teithiau ac Arddangosiadau
- Derbynnir Ymweliadau Addysgiadol
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau