Am
Mae’r warchodfa natur, yn cynnwys ein canolfan groeso, y siop a’r man chwarae bellach yn agored rhwng 9:30am a 5pm bob dydd. Mae’r maes parcio a’r toiledau yn agored rhwng 9.00am a 5pm. Mae ein cuddfannau’n dal ynghau ar hyn o bryd, yn unol â chanllawiau’r llywodraeth. Mae ein siop goffi'n agored rhwng 10am a 4pm, yn gwerthu bwyd a diod i fynd yn unig.
Croeso i leoliad sy’n hafan i deuluoedd sy’n caru natur. Bydd plant wrth eu boddau yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau neu redeg yn wyllt yn yr ardal chwarae allan. Mae cwisiau, llwybrau gyda golygfannau a chuddfannau er mwyn i chi allu gwneud y mwyaf o’ch ymweliad. Cewch hefyd gyfle i gyfarfod Tegi, ein bwystfil cyfeillgar.
Mae’r warchodfa natur sydd wedi ei leoli ger yr A55 ar lan aber Conwy, â golygfeydd godidog o Eryri a Chastell Conwy, yn un o’r llefydd hyfrytaf a hawsaf i’w chyrraedd yng Ngogledd Cymru ar gyfer cerdded hamddenol ar hyd llwybrau cylchol.
Yn gartref i fywyd gwyllt o bob math, gan gynnwys bob dim o regennod y dŵr a theloriaid i wyfynod a gweision y neidr, mae’n le delfrydol ar gyfer gwylio natur ar ei orau. Ymwelwch yn y gaeaf i fwynhau profiad bythgofiadwy wrth wylio heidiau o’r ddrudwen yn yr awyr yn symud fel un.
Cewch eu gweld yn agosach wrth ymweld ag un o’r cuddfannau, sy’n edrych allan dros ddwy lagŵn dŵr croyw. Mae’r lagwnau, gydag ynysoedd a phyllau bas, yn darparu ardaloedd gwerthfawr ar gyfer adar yr aber pan fo’r llanw yn uchel.
Mae’r warchodfa natur hefyd yn gartref i nifer o drychfilod, gan gynnwys gwyfyn bwrned chwe smotyn, glöyn byw glesyn cyffredin a gwas y neidr yr ymerawdwr. Mae dros 270 o rywogaethau planhigion wedi eu cofnodi hefyd, gan gynnwys blodyn hardd ac unigryw tegeirian y wenynen.
Bydd digonedd o ddewis i chi yn ein rhaglen digwyddiadau, a pheidiwch â methu’r farchnad cynnyrch lleol a gaiff ei chynnal yn y warchodfa ar ddydd Mercher olaf bob mis.
Mae ein siop goffi, sy’n edrych dros y lagŵn bas, yn lleoliad gwych ar gyfer cinio ysgafn neu de prynhawn, ac mae’r siop yn llawn anrhegion gwych a nwyddau bywyd natur!
Beth sydd i’w weld?
Drudwen – Ymwelwch yn y gaeaf i weld miloedd o’r adar yma yn dawnsio fel mae hi’n nosi wrth i’w harddangosfa llenwi’r awyr – golygfa ysblennydd o natur ar ei orau!
Rhegennod y dŵr - Mae’r adar dirgel yma i’w gweld yn gyson yn RSPB Conwy - yn aml o ffenestr y siop goffi!
Telor yr Hesg – Cyrhaeddai’r adar mudol yma i Gonwy o Affrica ym mis Ebrill gan lenwi’r corsleoedd â sŵn drwy gydol yr haf.
Gwas y neidr yr ymerawdwr - Ymwelwch yn yr haf i weld gwas y neidr fwyaf Prydain yn hedfan o amgylch ochrau’r lagwnau.
Rhostog Gynffonddu - Defnyddia’r adar gosgeiddig yma y lagwnau yn y gwanwyn a’r hydref, gan wneud defnydd o’u pig hir i ddod o hyd i fwyd yn y mwd.
Carlwm – Gwelir y mamaliaid carismatig yma yn aml yn y gwanwyn yn chwarae ym mysg y cerrig ar drac yr aber.
Gïach - Os edrychwch yn ofalus ar hyd ymylon ynysoedd y lagwnau yn ystod yr hydref a’r gaeaf...efallai y gwelwch chi ïach!
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Aelod Conwy RSPB | Am ddim |
Myfyriwr | £3.00 oedolyn |
Oedolion | £6.00 oedolyn |
Plentyn (hyd at 16 oed) | £3.00 plentyn |
Teulu (2 +3) | £15.00 teulu |
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Gwybodaaeth Covid-19
COVID-19 Response
- System unffordd
- Terfyn capasiti
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir Cerddwyr
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
- Gwasanaeth arlwyo
- Safle Picnic
Cyfleusterau Darparwyr
- Mynediad Anabl
- Siop
- Toiledau
- Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
Deunydd Argraffedig mewn Ieithoedd Arall
- Deunydd Argraffedig Cymraeg
Dulliau Talu
- Derbynnir Grwpiau - uchafswm o 20 o bobl
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Caniateir Cw^n Cymorth
- Lleoedd Parcio i Ymwelwyr Anabl
- Mae Pob Ardal yn Hygyrch i Ymwelwyr Anabl
- Mynediad wedi'i wella ar gyfer ymwelwyr ag anawsterau symudedd
- Ramp / Mynedfa Wastad
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Ieithoedd a siaredir
- Siaredir Cymraeg
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Plant
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Parcio (am ddim)
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Cyfleusterau newid babanod
Teithiau ac Arddangosiadau
- Derbynnir Ymweliadau Addysgiadol
- Teithiau Tywysedig ar gael i Grwpiau
- Teithiau Tywysedig ar gael i Unigolion
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
- Wi-fi ar gael
Teithio Grw^p
- Derbynnir bysiau