Am
Mae hon yn daith gerdded gylchol hawdd, ddwy filltir o amgylch Parc Eirias yn archwilio hanes y parc.Dilynwch y llwybr gan ddefnyddio’r pwyntiau QR (Ymateb Cyflym) i ddatgelu agweddau gwych ac annisgwyl o dreftadaeth ein parc, gan gynnwys sw, llyn cychod, dinosoriaid, marionetau a Chylch Meini’r Orsedd. Mae’r pwyntiau QR yn nodi 20 lleoliad o amgylch y parc a’r ardal gyfagos.
Gyda phob cam gallwch ddarganfod hanes cudd a gweld lluniau.
Gellir cael gwybodaeth ar bob pwynt ar y llwybr drwy sganio’r pwyntiau QR gan ddefnyddio ffôn Smart. Os ydych chi angen darllenydd QR ewch i dudalen app eich ffôn i lawr lwytho un.
Mae map o’r llwybr o amgylch y parc ar gael.