Hyrwyddo am dâl

Marchnadoedd lleol, digwyddiadau chwaraeon, digwyddiadau Calan Gaeaf ... wrth i’r gwyliau hanner tymor nesáu, mae yna lwyth o bethau yn digwydd yng Ngogledd Cymru. Dyma sut i wneud yn fawr o’r tymor llawn gweithgaredd hwn.

Gallwch fwynhau bwyd a diod gwirioneddol Gymreig yn RSPB Conwy

Ar fore dydd Mercher olaf o bob mis, mae gwarchodfa natur braf RSBP Conwy a leolir ar lan aber Conwy, yn cynnal Marchnad Ffermwyr Conwy (conwyfarmersmarket.co.uk). Mae yna awyrgylch braf, yn cynnig cynnyrch lleol blasus a danteithion gan grefftwyr fel siytni, caws a sebon llaeth gafr. Ie, sebon! Byddwch yn dod o hyd iddo y tu allan i Ganolfan Ymwelwyr RSPB Conwy rhwng 9am ac 1pm ddydd Mercher, 27 Hydref 2021. 

Mae’r farchnad yn un o fflyd o ddigwyddiadau i’r teulu a gynhelir yn RSPB Conwy yn ystod gwyliau hanner tymor mis Hydref. Er mwyn archwilio hanes naturiol y safle dynamig, archebwch daith gerdded bywyd gwyllt ar fore Sadwrn gyda thywysydd gwybodus. Mewn cyfnod o ddwy awr, maent yn anelu i gyfeirio at 50 rhywogaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Hanner tymor llawn egni ym Mharc Antur Eryri

Mae teuluoedd egnïol yn mwynhau Parc Antur Eryri. Mae yna lwyth o weithgareddau i roi cynnig arnynt. Mae yna lagŵn syrffio mewndirol anhygoel, un o’r cyrsiau ogofa artiffisial hiraf yn y byd, cwrs rhaffau uchel, llwybr parkour ac o bosibl y llithrfeydd dan do mwyaf anhygoel y byddwch yn eu profi erioed.  Yn syml, mae’r cyfan yn gwbl anhygoel. Ni fyddwch byth yn brin o bethau i’w gwneud.

Mae’n gyffrous bod Rali Cambrian Dewch i Gonwy (cambrianrally.co.uk) yn dychwelyd i Olgedd Cymru ddydd Sadwrn, 30 Hydref 2021, ac yn cael ei gynnal yn lleol. Sefydlwyd yn 1955 ac mae’n un o ddigwyddiadau chwaraeon moduro gorau Prydain. Bydd rali 2021 yn wyrddach na fu unrhyw rali Prydeinig erioed o’r blaen. Mae’r trefnwyr, sy’n gwneud y digwyddiad yn carbon niwtral erbyn 2025 yn buddsoddi mewn arddangosiadau ceir trydan a phlannu coed. Mewn amser, byddant yn cynnal Rali Cambrian Gwyrdd ar gyfer EVs ochr yn ochr â’r prif ddigwyddiad.

I gael rhagor o wybodaeth, Cliciwch yma.

Camwch yn ôl mewn amser yn y Profiad Ffrynt Cartref

Gadewch i ni fod yn realistig. Mae’n hydref. Mae’n bosibl y bydd glaw yn difetha eich cynlluniau ar rhyw bwynt. Ond peidiwch â chynhyrfu! Gallwch ddod o hyd i loches ym Mhrofiad Ffrynt Cartref yn Llandudno, cyn iddo gau am y flwyddyn. Mae’r amgueddfa hanes cymdeithasol annibynnol, unigryw hon yn llawn gwrthrychau hiraethus a synau sy’n ysgogi bywyd sifiliad ym Mhrydain yn y 1940au. Mae’n agored yn ddyddiol heblaw dydd Sul o ganol Mawrth tan ddechrau Tachwedd, a thrwy’r wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol. 

Mae’r curadur Adrian Hughes yn llawn gwybodaeth. “Ychydig o bobl sy’n gwybod bod Cyllid Y Wlad wedi’i anfon i Landudno yn ystod yr Ail Ryfel Byd”, meddai. “Roedd angen gwestai ar lan y môr ar gyfer gofod swyddfa, gan orfodi gwestai i roi eu dodrefn i gyd mewn storfa. Roedd llawer o letywragedd, y gweision sifil yn talu gini yr wythnos am lety.” I wybod mwy, gallwch weld llyfr newydd Adrian, Llandudno’s Military Heritage.

I gael rhagor o wybodaeth, Cliciwch yma.

Mwynhewch siopa gwirioneddol, yna ymlacio yn y Dunoon

Mae’n amser diffodd y gliniadur. Gyda marchnadoedd modern, siopau annibynnol braf a marchnadoedd cyfeillgar, mae Llandudno a Bae Colwyn yn lefydd gwych i ailddarganfod hwyl siopa gwirioneddol. Peidiwch â cholli Marchnad Artisan Bae Colwyn (theartisanmarketcompany.co.uk) ar Ffordd yr Orsaf, am ddillad penigamp, crefftau a bwydydd blasus. Bydd yn agored o 10am tan 4pm dydd Sadwrn 16 Hydref, dydd Sadwrn 20 Tachwedd a dydd Sadwrn 11 Rhagfyr 2021. 

I orffwys eich traed blinedig, bachwch gornel yn y Club Bar drws nesa i Westy Dunoon yn Llandudno a thretio eich hun i goffi artisan, cwrw lleol neu goctel Cymreig. Gellir archebu partïon Nadolig i hyd at 40 o bobl, mae’n eiddo i’r Dunoon, sydd â chynnig y Gaeaf rhwng 1 Tachwedd a 20 Rhagfyr 2021, cinio gyda'r nos, gwely a brecwast yn £80 yr un am noson.

I gael rhagor o wybodaeth, Cliciwch yma.

Archebwch ystafell yn Escape yn ystod Gŵyl Ffotograffiaeth y Northern Eye

Lansiwyd yn 2017, mae Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol y Northern Eye (northerneyefestival.co.uk) yn dychwelyd i Ogledd Cymru y mis hwn. Gyda lluniau o Gymru a thu hwnt, cynhelir gan oriel ffotograffiaeth arloesol Oriel Colwyn (orielcolwyn.org), Bae Colwyn. Trwy gydol mis Hydref, mae arddangosfeydd am ddim yn cael eu cynnal mewn ystod eclectig o adeiladau.

Byddai’r Escape Boutique, gwely a brecwast yn Llandudno y lle perffaith i aros. Mae’n ffefryn gan bobl enwog, ac mae lluniau o’i ystafelloedd cyfoes moethus yn ymddangos yn y wasg yn aml. Fila Fictoraidd llawn o gyffyrddiadau gwahanol, mae’n siŵr o apelio i’ch Instagramwr mewnol – ac mae’n gyfleus ar gyfer Venue Cymru a bwytai, bariau a siopau gorau Llandudno.

I gael rhagor o wybodaeth, Cliciwch yma.

Mwynhewch y Calan Gaeaf mewn carafán ar yr arfordir

Mae Calan Gaeaf rownd y gornel, ond mae yna dal amser i archebu cynnig olaf yng Nghanolfan Wyliau y Golden Gate neu Barc Hamdden Whitehouse ger Traeth Towyn. Gyda bwytai, bariau adloniant i blant a phwll nofio cyfleus, mae’r parciau hamdden hyn yn cynnig popeth rydych ei angen ar gyfer seibiant cyfforddus ond fforddiadwy yng Ngogledd Cymru.

Ar gyfer antur arswydus ar ôl iddi nosi, ewch draw i goedwig Zip World (zipworld.co.uk) fydd yn agor yn hwyr (7.30pm tan 10.30pm) o 22 tan 31 Hydref 2021.  Wrth ichi fownsio ar hyd rhodfa rhwyd hiraf Ewrop a mynd ar y wibdaith tobogan, byddwch yn ymwybodol o’r troeon gwaedlyd: unrhyw foment, gall clowniau arswydus a sombiaid ymddangos. Tocynnau ar gael i unigolion dewr naw oed a hŷn, mae’n rhaid archebu ymlaen llaw.

I gael rhagor o wybodaeth, Cliciwch yma.

Rhedeg ac ymlacio ym Mharc Gwyliau Tŷ Gwyn

Os ydy ysbrydion a phethau sy’n mynd bwmp yn y nos yn gwneud i chi fod eisiau rhedeg milltir (neu hyn yn oed deg cilometr), beth am wynebu eich gofidiau a gwneud yn union hynny? Cofrestrwch ar gyfer 10K Calan Gaeaf Porth Eirias (bespokefitnessandeventscouk) gwisgwch eich gwisg Calan Gaeaf a dilyn Llwybr Arfordir Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Yn ogystal â’r 10K i oedolion, mae yna 1K i blant hefyd. Mae’r hwyl yn dechrau am 9am ddydd Sadwrn, 30 Hydref 2021.

Am encil tawel ar ôl yr holl ymdrech, mae Parc Gwyliau Tŷ Gwyn y lle perffaith. Tawel, cyfeillgar ac yn cael ei redeg gan deulu ar arfordir Gogledd Cymru, ger Abergele, gyda mynediad uniongyrchol i’r môr. Gyda phaneli solar, gwelyau blodau gwyllt a chyffyrddiadau eraill cyfeillgar i natur, enillodd Wobr Cadwraeth Arian David Bellamy 2019 ac mae’r bar-bwyty, Lolfa Peacock yn cynnwys bwydlen eang, gan gynnwys coctels. Ewch amdani, rydych yn ei haeddu.

I gael rhagor o wybodaeth, Cliciwch yma.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb