Am
Mae Parciau SF yn cyflwyno’u parciau cyffiniol, Canolfan Golden Gate Holiday a Pharc Hamdden Whitehouse sydd wedi’u lleoli yn ardal brydferth Towyn, Gogledd Cymru, ger y Rhyl, Llandudno a Chonwy. Mae ein parciau gwyliau yn elwa o restr hirfaith o gyfleusterau, gan gynnwys; siop pysgod a sglodion, ardaloedd chwarae meddal, parc antur awyr agored, bwyty, bar, bar byrbrydau, cownter hufen ia, siop gornel a dwy arcêd! Pan rydych yma, cofiwch ymweld â’n pwll nofio newydd sbon! Byddwch yn sicr o ganfod popeth sydd ei angen arnoch yn ein parciau, a mwy!
Nid yw’r hwyl yn stopio yn y Clubhouse a Jakes Bar, gyda dwsinau o weithgareddau ar gyfer y plant, o Glwb Plant Buddy’s, Partïon Dawnsio gyda’r Tîm Adloniant neu dreulio awr yn yr arcêd. Gallwch fwynhau’r atmosffer yn ystod dangosiadau chwaraeon wrth fwynhau diod o’r bar, neu fwynhau gêm o fingo cyn i’r Act Byw nesaf ddechrau!
Mae ein pwll nofio newydd, sy’n arbennig ar gyfer defnydd ein perchnogion a’n gwesteion, yn cynnwys un pwll nofio mawr a phwll nofio i’r plant, gyda nodweddion dŵr a ffynhonnau, yn ogystal â galeri i wylio. Mae gan y pwll achubwyr bywyd yn ystod oriau agor, yn ogystal ag amserlen o weithgareddau nofio gyda hyfforddwr, a rhaglen estynedig ar gyfer y plant.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 800
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Cyfradd ddyddiol | o£40.00 i £95.00 fesul uned y noson |
Fesul uned yr wythnos | o£150.00 i £660.00 fesul uned yr wythnos |
*Fel canllaw, rhoddir prisiau fesul ystafell fesul noson ar gyfer gwestai, gwestai bach, gwely a brecwast, fflatiau â gwasanaeth a fesul wythnos am lety hunanddarpar.
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Arall
- Evening meal available / cafe or restaurant on-site
- Ground floor bedroom/unit
- Short breaks available
- Special diets catered for
- Swimming pool on site
Arlwyo
- Siop fwyd
Cyfleusterau Darparwyr
- Adloniant rheolaidd gyda'r nos
- Children's facilities available
- Darperir dillad gwely
- Wifi ar gael
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Ieithoedd a siaredir
- Siaredir Cymraeg
Nodweddion Darparwr
- Trwyddedig
Nodweddion Ystafell/Uned
- Gwres canolog ym mhob uned
Teithio Grw^p
- Derbynnir bysiau