Clwb Golff Abergele

Am

Mae Clwb Golff Abergele’n glwb golff o ansawdd uchel sy’n agored i bawb. Dywedir mai dyma un o’r cyrsiau harddaf yng Nghymru o dan gysgod mawreddog Castell Gwrych (cartref ‘I’m a Celebrity... Get Me Out of Here’ yn 2020 a 2021), ac mae’n ffefryn gan yr aelodau a’r ymwelwyr a ddaw o bedwar ban byd.

Bydd pawb yn mwynhau ein cwrs golff bendigedig, boed yn golffiwr profiadol neu’n ddechreuwr, ac mae gennym wahanol dïau i bobl o bob gallu.

Yma yng Nghlwb Golff Abergele rydyn ni’n fwy na dim ond cwrs golff. Estynnwn groeso cynnes i westeion a’r gymuned leol ddod i’n Clwb lle gallant fwynhau’r bwyd blasus a chael diod yn y bar.

Rydym yn adnabyddus am ein staff ac aelodau croesawgar a chlên ac fe deimlwch chi’r naws deuluol o’r eiliad y byddwch yn cyrraedd y Clwb. Ein nod yw bod gwesteion, cymdeithasau a grwpiau, p’un a ydynt yn chwarae golff neu’n dod am fwyd a diod yn y Clwb, yn cael cystal amser â phosib.

Mae yno fwydlen fendigedig yn y Bistro ac mae’r tîm cyfeillgar y tu ôl i’r bar bob amser wrth law i chi gael diod haeddiannol.

Archebu

I gadw’ch lle ar gyfer gêm bedair pêl ewch i www.abergelegolfclub.co.uk, clicio ar book now ac yna dewis visitor booking.

Os hoffech chi gadw lle ar gyfer grŵp o ddeuddeg neu fwy, ffoniwch y swyddfa ar 01745 824034 a dewis opsiwn 3 neu e-bostiwch admin@abergelegolfclub.co.uk. Cynigir gostyngiadau i gymdeithasau sy’n archebu mewn grwpiau o fwy na deuddeg, a chodir blaendal na chaiff ei ad-dalu o £10 y pen i gadarnhau eich lle.

Os hoffech chi archebu bwyd wrth ddod am gêm gyda chymdeithas, cysylltwch â’r arlwywyr o leiaf saith diwrnod cyn diwrnod eich gêm. Mae ganddynt ddewis da o brydau a byrbrydau at ddant pawb, a gellir addasu yn ôl anghenion diet.

Mae’n rhaid talu gweddill unrhyw gyfrif yn llawn y diwrnod cyn chwarae.

Mae yno fygis i’w llogi ond nifer cyfyngedig sydd ar gael, a dylid trefnu hyn gyda’r siop o flaen llaw rhag i chi gael eich siomi. Gallwch eu ffonio ar 01745 824034 a dewis opsiwn 2.

I archebu’r ystafell ddigwyddiadau, e-bostiwch reception@abergelegolfclub.co.uk; neu ffoniwch y swyddfa ar 01745 824034 a dewis opsiwn 3.

Cyfleusterau

Arlwyo

  • Bar
  • Bwyty
  • Gwasanaeth arlwyo

Cyfleusterau Darparwyr

  • Cawodydd
  • Cyfleusterau cynadledda
  • Gwersi/cyrsiau ar gael
  • Hyfforddwyr cymwys
  • Lefel profiad - dechreuwr
  • Lefel profiad - uwch
  • Llieiniau ar gael
  • Mae croeso i bobl nad ydynt yn aelodau
  • Mynediad Anabl
  • Siop
  • Toiledau
  • Yn darparu ar gyfer digwyddiadau Corfforaethol
  • Yn derbyn partïon bysiau

Dulliau Talu

  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Hygyrchedd

  • Darperir mannau parcio penodol ar gyfer gwesteion ag anableddau
  • Gall ymwelwyr anabl gael mynediad i bob ardal
  • Mae pob ardal yn hygyrch i ymwelwyr ag anawsterau symudedd
  • Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
  • Maes parcio
  • Parcio ar y safle

Plant a Babanod

  • Yn derbyn plant (isafswm oedran)

Teithio a Masnachu

  • Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
  • Wi-fi ar gael

Teithio Grw^p

  • Derbynnir bysiau

Map a Chyfarwyddiadau

Clwb Golff Abergele

Cwrs Golff

Tan y Gopa Road, Abergele, Conwy, LL22 8DS

Ychwanegu Clwb Golff Abergele i'ch Taith

Ffôn: 01745 824034

Amseroedd Agor

* Cysylltwch â'r Clwb Golff am amseroedd agor ac argaeledd.

Beth sydd Gerllaw

  1. Plasty Gradd I rhestredig yng Ngogledd Cymru yw Castell Gwrych a adeiladwyd ddechrau’r…

    0.51 milltir i ffwrdd
  2. Croeso i’n Parc Fferm. Gwyliwch ras y moch, cyfarfod â’n hymlusgiaid, rhoi mwythau i…

    0.56 milltir i ffwrdd
  3. Arcêd Adloniant a chanolfan adloniant i deuluoedd ar y promenâd yn Abergele.

    0.58 milltir i ffwrdd
  1. Wedi ei leoli yn agos at y traeth yn Abergele, mae Parc Pentre Mawr yn barc trefol…

    0.67 milltir i ffwrdd
  2. Mae’r traeth cerrig mân hyfryd hwn gyda’i bromenâd, yn wych ar gyfer cerdded yn hamddenol…

    0.78 milltir i ffwrdd
  3. Fe ganfyddwch lwybrau gwasgaredig o dywod a cherrig crynion ar hyd y rhan hon o’r traeth…

    1.96 milltir i ffwrdd
  4. Wedi bod yn dod â hwyl a chwerthin i wyliau’r haf ers dros 50 mlynedd, mae Knightly’s…

    2.58 milltir i ffwrdd
  5. Mae Mynydd Marian yn gefnen fechan o garreg galch sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir…

    2.71 milltir i ffwrdd
  6. Am rywbeth ychydig yn wahanol beth am y wefr o rasio harnes arddull Americanaidd yn Nhir…

    2.96 milltir i ffwrdd
  7. Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel, yn draeth tywodlyd sy’n wynebu'r gogledd gyda…

    3.55 milltir i ffwrdd
  8. Mae Twyni Cinmel yn rhoi cyfle i chi gerdded neu feicio drwy system dwyni tywod…

    3.63 milltir i ffwrdd
  9. Mae’r Glyn yn Warchodfa Natur Leol a choetir hynafol. Mae’r llwybrau coediog drwy’r…

    4.34 milltir i ffwrdd
  10. Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau…

    5.04 milltir i ffwrdd
  11. Wedi ei leoli ym Mae Colwyn, gyda hanner can erw o barcdir prydferth, Parc Eirias ydi…

    5.05 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....