
Am
Taith gerdded gylch fer tua 1.5 milltir o hyd trwy goetir Coed Shed gan ddechrau o bentref y Groes ger y ffin â Sir Ddinbych. Mae hon yn daith hawdd ar hyd llwybrau coetir a lonydd gwledig, yn cynnwys rhai bryniau, a dylai gymryd tua 1 awr i’w chwblhau. Mae cyfoeth o fywyd gwyllt yng nghoetir hynafol Coed Shed, sydd yn arbennig o ddeniadol yn ystod y gwanwyn pan fydd blodau’r gwanwyn yn creu sbloet o liw.Gallwch brynu taflen yn cynnwys manylion am y daith gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.